Darganfod gwreiddiau go iawn Myrddin
25 Chwefror 2025

Nid dewin oedd Myrddin ond bardd a phroffwyd gyda diddordeb yn y byd naturiol, yn ôl astudiaethau i'r cerddi cynharaf amdano.
Mae Prosiect Barddoniaeth Myrddin yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Abertawe. Dros y tair blynedd diwethaf, mae academyddion wedi bod yn golygu a chyfieithu mwy na 100 o gerddi am y ffigwr chwedlonol, rhai yn dyddio mor bell yn ôl â'r 10fed ganrif.
Mae’r cerddi, sydd wedi’u dwyn ynghyd, eu cymharu a’u trefnu o fwy na 500 o lawysgrifau canoloesol Cymraeg, ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar y wefan hon: myrddin.cymru
Dywedodd Dr David Callander, o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd: “Ffigwr llenyddol a gydnabyddir yn rhyngwladol yw Myrddin, y mae ei ddylanwad i’w weld ar draws popeth o ffilmiau a sioeau teledu i lyfrau a gemau cyfrifiadurol. Eto er gwaethaf hyn, mae rhai o'r cerddi cynharaf amdano wedi parhau'n ddirgelwch hyd yn hyn.
“Mae ein hymchwil sy'n archwilio gwreiddiau'r cymeriad yn datgelu, yn wahanol i'r syniad poblogaidd o Myrddin fel dewin, fod y testunau cynharaf amdano mewn gwirionedd yn ei ddarlunio fel bardd a phroffwyd yn adrodd am ddyfodol Ynys Prydain.
“Gallai rhywun hyd yn oed ddadlau bod obsesiwn Myrddin â byd natur a sut mae pobl yn gallu effeithio ar y byd o’u cwmpas yn ei wneud yn un o’r amgylcheddwyr cynharaf i’w gael – mae un gerdd yn ei weld yn siarad â choed afalau ac mae ei gydymdeimlad yn aml yn fwy â’r byd naturiol nag â’r dynol. Cawn hefyd ddysgu mwy am bwysigrwydd ei chwaer, Gwenddydd, gyda llinellau o farddoniaeth sydd newydd eu darganfod yn ei dangos yn sgwrsio â Myrddin.”
Mae chwedl Myrddin yn rhan enfawr o ddiwylliant Cymru a Phrydain. Ond mae cymaint mwy eto i'w ddarganfod. Mae gallu darllen a chael mewnwelediad o lenyddiaeth a ysgrifennwyd gannoedd o flynyddoedd yn ôl yn rhoi’r cyfle i ni gysylltu’n ddyfnach â’n treftadaeth, yn ogystal â dangos hanes llenyddol cyfoethog y gallwn fod yn falch ohono i’r byd.
Yn gyfan gwbl, golygodd academyddion 102 o gerddi, sef hyd at 4,450 o linellau mewn 519 o lawysgrifau. Mae hyn yn cynnwys saith cerdd gynnar o bwys mewn llawysgrifau canoloesol, yn ogystal â 95 o gerddi diweddarach sydd wedi goroesi o'r cyfnod modern cynnar.
Mae’r tîm ymchwil wedi archwilio’r berthynas rhwng cerddi Cymraeg Myrddin a’r traddodiad Arthuraidd ehangach, a boblogeiddiwyd ledled Ewrop gan Sieffre o Fynwy (m. 1154/5), sef y cyntaf i ddod â ffigyrau Arthur a Myrddin at ei gilydd.
Dywedodd Alexander Roberts, Rheolwr Data Ymchwil a Dyniaethau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe: “Roedd yn bleser arbennig i dîm y Dyniaethau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe gydweithio â chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i ddatblygu a chynnal y rhifyn ysgolheigaidd digidol mynediad agored hwn. O’r cychwyn cyntaf, cofleidiodd y prosiect ethos mynediad agored, gan ei integreiddio i’r prosiect o’r cychwyn cyntaf.
“Mae Prifysgol Abertawe wrth ei bodd i fod wedi gwireddu’r weledigaeth o ddatblygu nid yn unig argraffiad digidol dwyieithog cyfoes o Farddoniaeth Gymraeg yn llais Myrddin ond hefyd llwyfan wedi’i ddogfennu’n dda a fydd yn galluogi ysgolheigion testunol eraill, o fewn y brifysgol ac yn rhyngwladol, i gyflwyno cynnwys tebyg. Bydd cyfarwyddiadau, ffynonellau a chôd ar gael cyn bo hir ar gymuned data ymchwil agored Prifysgol Abertawe, gan sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn ailddefnyddiadwy i bawb.”
Meddai’r Athro Ann Parry Owen o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: “Mae wedi bod yn fraint lwyr i ni gydweithio â chydweithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a’r Dyniaethau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe ar y prosiect pwysig hwn, gan archwilio gyda’n gilydd y corff hynod ddiddorol hwn o farddoniaeth a briodolir i Myrddin, a chreu golygiad digidol ar-lein cyffrous ac arloesol.”
Mae'r prosiect wedi derbyn £716,000 mewn cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).