Mae Goruchaf Lys UDA yn rhoi’r cyfle i fenyw apelio yn erbyn ei heuogfarn o lofruddiaeth ar ôl dadansoddiad academydd
25 Chwefror 2025

Mae ymchwil academydd o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn hollbwysig wrth roi cyfle newydd i fenyw ar res marwolaeth UDA herio’r euogfarn yn ei herbyn.
Mae Dr Amanda Potts yn ysgolhaig sydd eisoes wedi ymchwilio i naratifau stereoteipio menywod sy'n lladd. Yn seiliedig ar yr arbenigedd hwn, roedd Dr Potts yn gyd-awdur dogfen y cyfaill / amicus brief, sef dogfen a ddefnyddir yn gyffredin yn llysoedd yr Unol Daleithiau ac a gofnodir gan arbenigwyr perthnasol. Ynddi, dadleuwyd bod tystiolaeth a gyflwynwyd yn achos treial Brenda Andrew yn niweidiol a’i bod yn bosibl i erlynwyr nacáu ei hawl i gael achos llys teg drwy gyflwyno tystiolaeth drythyllgar am ei gweithgareddau rhywiol.
Brenda Andrew yw’r unig ddynes ar res marwolaeth Oklahoma a chafodd euogfarn o ladd ei gŵr. Fis diwethaf, gwnaeth y Goruchaf Lys wyrdroi penderfyniad y llys is, fel y gall ddychwelyd i’r llys apêl i ofyn iddyn nhw ailystyried ei hachos. Cafodd y dyfarniad pwysig hwn sylw yn y New York Times.
Penderfynodd y Llys fod y Cyfansoddiad yn gwahardd y Dalaith yn glir rhag cyflwyno tystiolaeth sydd mor niweidiol fel bod yr achos llys troseddol yn mynd yn sylfaenol annheg. Roedd hefyd yn cydnabod bod erlynwyr wedi cyflwyno stereoteipiau ar sail rhyw drwy gydol achos llys Brenda, megis y gwisgoedd a wisgai Brenda i swper, y dillad isaf yr oedd wedi’u pacio ar gyfer gwyliau, tystiolaeth am ei hanes rhywiol a pha mor dda y dylai mamau ymddwyn.
Dyma a ddywedodd Dr Amanda Potts, ieithydd yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae barn y Llys yn un hanesyddol. Mae’n anfon y neges bod defnyddio ystrydebau ar sail rhyw i gyfiawnhau euogfarn a dedfryd o farwolaeth yn annioddefol a bod y Cyfansoddiad yn amddiffyn y rheini nad ydyn nhw’n dilyn normau rhyw caeth.
“Bellach bydd achos Brenda dychwelyd i’r Degfed Gylchdaith, lle bydd ganddi’r cyfle newydd i ddangos bod y dystiolaeth cywilyddio ar sail rhyw a ddefnyddiodd yr erlynwyr yn ei herbyn yn yr achos llys mor niweidiol fel bod ei hachos llys yn un sylfaenol annheg.”
Bydd dogfennau’r cyfaill yn cael eu cyflwyno gan bobl, grwpiau, neu sefydliadau sydd â buddiannau cryf ym mhwnc yr achos, ond nad ydyn nhw'n bartïon yn yr ymgyfreitha na chwaith yn ymwneud yn uniongyrchol ag ef. Gall llys benderfynu cymryd y safbwyntiau hyn i ystyriaeth wrth wneud eu dyfarniad. Yn ogystal â chyd-awduro dogfennau’r cyfaill, mae Dr Potts wedi ysgrifennu am rôl y testunau hyn mewn achosion erthyliad dros gyfnod 50 o mlynedd yng Ngoruchaf Lys Unol Daleithiau America.