Mae Sefydliad Waterloo yn dyfarnu £1.25m i astudio effaith maeth ar ddatblygiad ymennydd plant
25 Chwefror 2025

Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi rhodd nodedig o £1.25 miliwn gan Sefydliad Waterloo, i gefnogi ymchwil arloesol i wella’n dealltwriaeth o sut mae deiet yn effeithio ar iechyd yr ymennydd.
Bydd y rhodd hon, y mwyaf hyd yma gan y Sefydliad, yn ariannu rhaglen bum mlynedd 'Datblygu Meddyliau' Y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHII) y Brifysgol, gan ganolbwyntio ar effeithiau deiet a maeth ar niwroddatblygiad plant.
Gyda ffocws ar 'genomeg maeth seiciatrig’- maes newydd sy'n trin a thrafod cydadwaith rhwng deiet, geneteg, ac iechyd meddwl, nod 'Datblygu Meddyliau' yw datgelu sut mae cydrannau deietegol a'u synergeddau yn effeithio ar iechyd yr ymennydd. Bydd yr ymchwil hon yn gosod y sylfaen ar gyfer gwell ymyriadau a strategaethau iechyd y cyhoedd.
Mae'r rhodd ddiweddaraf hon yn adeiladu ar dros ddegawd o gydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a The Waterloo Foundation, y mae eu cefnogaeth flaenorol wedi bod yn sail i fentrau 'Newid Meddyliau a 'Meddyliau’r Dyfodol', yn ogystal â phrosiectau eraill ledled y Brifysgol.
Meddai Heather Stevens, Cadeirydd Sefydliad Waterloo: “Rydyn ni’n falch o gefnogi gwaith arloesol Prifysgol Caerdydd ym maes genomeg maeth seiciatrig gyda’n rhodd fwyaf hyd yma. Drwy fuddsoddi yn yr ymchwil hwn, ein nod yw datgloi llwybrau newydd i sicrhau dyfodol iachach i blant a chymunedau, yn lleol ac yn fyd-eang.”
Bydd y rhaglen Developing Minds yn cael ei harwain gan Gyd-gyfarwyddwyr yr NMHII, yr Athro Jeremy Hall ac Adrian Harwood, ynghyd â Ros John, Lawrence Wilkinson a Marianne van den Bree. Bydd yn adeiladu ar brosiectau presennol sy'n edrych ar effeithiau biolegol asidau brasterog aml-annirlawn deietegol.
Pwysleisiodd yr Athro Jeremy Hall bwysigrwydd y gefnogaeth hon:
Bydd y rhodd hael hon yn ein galluogi i gyflymu ymchwil i sut mae ffactorau amgylcheddol megis maeth yn rhyngweithio â genynnau i effeithio ar niwroddatblygiad ac iechyd meddwl. Gyda'r bartneriaeth hon, gallwn ni ddatblygu dealltwriaeth wyddonol ac, yn y pen draw, drawsnewid bywydau. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am eu hymddiriedaeth yn ein gweledigaeth.
Mae Dr Karolina Dec wedi’i phenodi’n Uwch Gymrawd Ymchwil ar gyfer y rhaglen newydd. Mae ei hymchwil blaenorol wedi dangos pwysigrwydd lipidau mewn niwroddatblygiad, ac arwyddocâd Omega 3 ac Omega 6 mewn deietau. Mae'n gobeithio adeiladu ar y canfyddiadau hyn a gwella’n dealltwriaeth o sut mae'r asidau brasterog hyn yn effeithio ar ddatblygiad ein hymennydd.
Dywedodd yr Athro Adrian J Harwood, Cyd-gyfarwyddwr yr NMHII:
Rydyn ni yn yr NMHII wedi gweithio'n agos gyda Sefydliad Waterloo yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf i astudio'r rhyngweithio rhwng deiet ac iechyd meddwl. Mae bellach yn foment gyffrous i gychwyn rhaglen ymchwil fawr ac arweinyddiaeth ym maes newydd genomeg maeth seiciatrig.
Gyda’i gilydd, mae Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Waterloo yn arwain y gwaith o sicrhau dyfodol mwy disglair ac iachach i’r genhedlaeth nesaf. Dysgwch fwy am y rhaglen Datblygu Meddyliau.