Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant Gwobr y Green Gown i Fwyd Prifysgol Caerdydd

26 Tachwedd 2024

Mae Bwyd Prifysgol Caerdydd wedi ennill yn ei gategori yng Ngwobrau’r Green Gown 2024.

Mae gwobrau’r Green Gown yn digwydd unwaith y flwyddyn ac yn cydnabod cynlluniau cynaliadwyedd rhagorol prifysgolion a cholegau ledled y DU ac Iwerddon.

Enillodd Bwyd Prifysgol Caerdydd y categori ‘Iechyd, bwyd a diod ar y campws’ eleni am ymrwymo i gaffael bwyd yn gynaliadwy, lleihau ei ôl troed carbon a blaenoriaethu iechyd, maeth a blas.

Mae'r fuddugoliaeth yn tynnu sylw at gaffi Green Shoots y Brifysgol, y caffi er planhigion (llysieuol/fegan) yn y Prif Adeilad sy’n lle gwych i gyfarfod, astudio neu gymdeithasu ond ar ben hynny i gynnal digwyddiadau sy'n cynnwys Clybiau Swper misol i fyfyrwyr a phryd o fwyd tri chwrs am ddim ar sail digwyddiad cymunedol.

Cytunodd y beirniaid ei bod yn enghraifft wych o feithrin cymunedau drwy wneud y gwasanaeth arlwyo’n fwy cynaliadwy.

Dyma a ddywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner: “Mae’n wych bod ymroddiad tîm arlwyo Prifysgol Caerdydd i gynaliadwyedd a lles yn cael ei gydnabod yn y ffordd yma.  Mae'n pwysleisio ein rôl yng Nghaerdydd a Chymru ac yn dathlu arweinyddiaeth y tîm yn y gwaith o hyrwyddo opsiynau bwyta’n iach ac yn llysieuol tra'n meithrin cynwysoldeb a hybu ffynonellau bwyd lleol a hynny oll mewn lleoliad cymunedol a bywiog."

Cydnabuwyd hefyd yn y Gwobrau y prosiect Cenhedlaeth y Gwylltu: Cysylltu plant o gymunedau difreintiedig â byd natur, a gafodd gryn ganmol yn y categori 'Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant ym myd Cynaliadwyedd'.  Roedd y beirniaid yn cydnabod ei botensial i “ysgogi newid ledled y sector addysg amgylcheddol.” Yn y prosiect, mae tair o Ysgolion y Brifysgol – Seicoleg, Daearyddiaeth a Chynllunio a Phensaernïaeth – yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir (yr elusen natur a elwid gynt yn Ymddiriedolaeth yr Adar Hela a’r Gwlyptir), i gefnogi cyfleoedd i blant o gefndiroedd heb eu gwasanaethu’n ddigonol a heb gynrychiolaeth ddigonol gysylltu â byd natur a hyd yn hyn maen nhw wedi helpu mwy na 37,000 o blant gan sicrhau cyllid i barhau am dair blynedd arall.

Roedd Pwyllgor ECO Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, hefyd ar y rhestr fer yn y categori 'Hyrwyddwr Cynaliadwyedd - Staff'. Cafodd ei sefydlu yn 2023 gan wirfoddolwyr sy’n cynrychioli staff academaidd, gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr yr Ysgol. Mae’r aelodau'n gweithio i newid ein dealltwriaeth o newid hinsawdd cadarnhaol ac yn canolbwyntio ar wella lles y staff a’r myfyrwyr. Ymhlith y gweithgareddau llwyddiannus hyd yn hyn y mae cynlluniau ailddefnyddio ac ailgylchu, cyfnewid dillad, sesiynau casglu sbwriel, hyrwyddo teithio llesol, arolwg o ddraenogod a chodi blychau pryfed.

Rhannu’r stori hon