
Mae Sheng-sheng-man gan Dr Jerry Yue Zhuo bellach ar gael ar Spotify
24 Chwefror 2025

Mae recordiad stiwdio o Sheng-sheng-man gan Dr Jerry Yue Zhuo wedi cael ei rhyddhau yn dilyn ei berfformiad cyntaf ym mis Mawrth 2024.
Cafodd y cyfansoddiad ensemble lleisiol hwn ei berfformio am y tro cyntaf i groesawu cyngerdd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod blynyddol yr Ysgol Cerddoriaeth ym mis Mawrth 2024. Cafodd ei berfformio gan Ensemble y Pafiliwn, sef grŵp cerddoriaeth gyfoes o dan arweiniad y cyfarwyddwr cerdd Yajie Ye- hefyd yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd - ac yn cynnwys Daniella Sicari, soprano o Lundain. Cafodd ei recordio yn ddiweddarach yn neuadd gyngerdd yr Ysgol Cerddoriaeth.
Roedd Yajie yr arweinydd yn argymell y cyngerdd a’r recordiad: 'Roedd gweithio gyda Daniella, Jerry, a'r chwaraewyr anhygoel o Ensemble yn brofiad gwerth chweil. Roedd Daniella wedi dehongli'r darn mewn ffordd mor bwerus a chynnil, ac fe wnaeth ei hymrwymiad i ddeall manylion cymhleth y darn ddod a'r cyfansoddiad yn fyw.’

Ysbrydoliaeth Jerry ar gyfer y Sheng-sheng-man oedd y gerdd o ran teitl gan y bardd Tsieineaidd benywaidd Li Qingzhao (1084–1155, teyrnas Song). Ysgrifennwyd y gerdd wedi marwolaeth ei gŵr, ar adeg pan oedd teyrnas Song ar fin cwympo oherwydd goresgyniadau milwrol tramor.
Mewn ailddehongliad o’r gerdd, mae’r cyfansoddiad yn cynnwys elfennau o iaith gerddorol Jerry sydd bron a bod yn amherthnasol i naratif y gerdd. Er enghraifft, roedd Daniella o dan gyfarwyddyd i guro pâr o flociau pren coch wrth ganu. ‘Jiaobei yw'r rhain, sef blociau darllen dail sy’n cael eu defnyddio yn fy nghrefydd Daoaidd leol', meddai Jerry. 'Maen nhw'n fy helpu i greu awyrgylch cerddorol lle gall fod yn bosibl i fy hunaniaeth i weithredu mewn perthynas â’r bardd’.
Roedd y canwr Daniella Sicari wedi mwynhau gweithio gyda Jerry a Yajie ar y darn. Meddai hi am y profiad, 'Rwy wedi mwynhau gweithio ar gerddoriaeth newydd ac yn benodol wedi mwynhau gweithio ar y darn hwn gyda Jerry; roedd yn barod i dderbyn fy adborth yn ystod y sesiynau ymarfer, a pharod i helpu pan oedd gen i gwestiynau ynghylch y darn. Dim ond cyfnod byr o amser oedd ar gael i ymarfer, ond llwyddon ni i gyflawni popeth mewn pryd! Wrth iddi feddwl am baratoi ar gyfer y perfformiad, roedd Daniella’n tynnu sylw at y cymorth a gafodd hi gan yr arweinydd: 'Bu Yajie a minnau yn ystyried pethau newydd wrth baratoi ar gyfer y perfformiad – yn gyfarwyddwr cerdd yn arweinydd ac yn hyfforddwr iaith.'
Dywedodd Yajie, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd fod 'dychwelyd i Gaerdydd yn fwy nag aduniad; roedd yn gyfle i gyfrannu at y drafodaeth sy’n mynd ymlaen ynghylch amrywiaeth a chynwysoldeb ym maes cerddoriaeth. A finnau’n arweinydd benywaidd, rwy’n ymwybodol iawn o’r heriau a’r cyfrifoldebau sydd ynghlwm a’r rôl - yn enwedig mewn maes ble nad oes cynrychiolaeth ddigonol. Roedd bod yn flaenllaw mewn digwyddiad sy'n dathlu cyfraniadau menywod nid yn unig yn garreg filltir bersonol ond hefyd yn ddatganiad o bwysigrwydd cael menywod yn arwain yn y celfyddydau.’
Mae'r recordiad bellach ar gael ar Spotify.