Bydd cyllid Meistr yn cynyddu nifer y menywod yng ngweithlu seiberddiogelwch
20 Chwefror 2025

Mae pum menyw wedi cyflawni eu gradd Meistr Seiberddiogelwch a Seiberddiogelwch a Thechnoleg gan ddefnyddio lleoedd wedi'u hariannu, diolch i gydweithredu rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chanolfan Rhagoriaeth Academaidd Addysg Seiberddiogelwch Prifysgol Caerdydd.
Gan ddefnyddio Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU, roedd modd i Ganolfan Rhagoriaeth Academaidd Addysg Seiberddiogelwch Prifysgol Caerdydd gynnig lleoedd wedi'u hariannu i fyfyrwragedd ar raglen gradd Meistr amser llawn, yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio a mentora drwy Fenywod Seiber Cymru i greu llwybrau cliriach i fenywod gael gyrfaoedd ym maes seiberddiogelwch.
5 o fenywod
mae’r meistr yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
17%
mae 17% o’r gweithlu seiber yn fenywaidd yn ôl adroddiad yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) yn 2024 ar sgiliau seiberddiogelwch ym marchnad lafur y DU.
100%
cyfweliadau swydd gwarantedig i bawb sy'n cymryd rhan yn y rhaglen.

Mae’r cyllid hwn yn cael ei fuddsoddi mewn meithrin arweinwyr cymwys y dyfodol ar gyfer y sectorau seiberddiogelwch a thechnoleg yng Nghymru. Gan fod nifer o straeon o lwyddiant wedi deillio o’r tair carfan flaenorol, rwy’n hyderus y byddwn ni’n gweld rhagor o raddedigion a gafodd eu hariannu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn rolau arwain ym maes seiberddiogelwch yn y dyfodol ac y bydd cyfran deg o’r arweinwyr hyn yn y dyfodol yn fenywod.
Wrth i bobl dreulio mwy o'u bywydau mewn mannau digidol, mae systemau seiberddiogelwch yn gynyddol bwysig i amddiffyn unigolion, sefydliadau a llywodraethau. Gall mesurau rhagweithiol atal seiberdroseddwyr rhag cyrchu gwybodaeth sensitif, data, cyfrifon a dyfeisiau personol. Mae ymchwil ddiweddar gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) yn dangos bod gan 44% o fusnesau fwlch sgiliau sylfaenol ym maes seiberddiogelwch yn 2024 a bod gan 390,000 o fusnesau fwlch sgiliau uwch. Mae amrywiaeth yn y maes yn bodoli o hyd gan fod menywod ond yn cyfrif am 17% o'r gweithlu.

Mae cryfder mawr mewn dod ynghyd yn ecosystem. Gyda’n gilydd, gallwn ni ymchwilio i’r heriau a’r bygythiadau presennol, ac mae amrywiaeth meddwl yn rhan bwysig iawn o hyn: pan fydd problemau seiberddiogelwch yn codi, dylen ni ddod â chymaint o arbenigwyr â phosibl ynghyd i’w datrys, gan fod hyn yn sicrhau bod pob ateb posibl yn cael ei ystyried.
Yn 2024-2025, ymunodd Prifysgol Caerdydd â’r Rhaglen Datblygu a Meithrin Clystyrau (CDGP) dan arweiniad Coleg Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi clystyrau blaenoriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: Technoleg Ariannol, Technoleg Feddygol, y Diwydiannau Creadigol, Seiberddiogelwch a Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Rôl Canolfan Rhagoriaeth Academaidd Addysg Seiberddiogelwch Prifysgol Caerdydd yn y rhaglen hon yw ehangu amrywiaeth y gweithlu seiberddiogelwch ac annog rhagor o fenywod i gymryd rhan ym maes seiberddiogelwch.