Mathemategwyr Prifysgol Caerdydd yn cael sylw mewn ymgyrch arbennig gan Academi’r Gwyddorau Mathemategol
19 Chwefror 2025

Mae mathemategwyr o Brifysgol Caerdydd wedi cael cryn dipyn o sylw yn ymgyrch ddiweddaraf Academi’r Gwyddorau Mathemategol, 'Maths Can Take You Anywhere'.
Mae'r fenter yn arddangos 23 o weithwyr proffesiynol mathemategol o bob cwr o'r DU, gan roi’r sbotolau ar eu gyrfaoedd amrywiol a diddorol. Mae pedwar arbenigwr o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd - Dr Katerina Kaouri, Dr Kirstin Strokorb, Dr Simon Wood a Dr Thomas Woolley - ymhlith y rhai sy'n cael eu dathlu am eu cyfraniadau i'r maes.
Nod yr ymgyrch, sydd wedi cyrraedd cannoedd o ysgolion ar draws y wlad, yw: 'darparu modelau rôl perthnasol; herio canfyddiadau negyddol a stereoteipiau; dangos gwerth a phwysigrwydd gwyddorau mathemategol i gymdeithas; ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr mathemategol; a hyrwyddo rhagoriaeth a dathlu amrywiaeth.'
Mae Dr Katerina Kaouri yn fodelwr mathemategol sy'n arbenigo mewn creu modelau ar gyfer amrywiaeth o heriau byd-eang, ac ar hyn o bryd mae’n canolbwyntio ar faterion biofeddygol megis atal a lliniaru epidemigau, a ffrwythloni ac embryogenesis. Mae Katerina yn gweithio ar y cyd â llywodraethau, cwmnïau a sectorau eraill i fynd i'r afael â materion dybryd.
Mae Dr Kirstin Strokorb yn ymchwilio i theori gwerth eithafol, cangen o faes tebygolrwydd ac ystadegaeth i gynnig gweithdrefnau damcaniaethol gadarn ar gyfer allosod y tu hwnt i ystod y data.
Mae Dr Simon Wood yn ymchwilio i gymesureddau mewn ffiseg cwantwm, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud ag anghyfnewidioldeb graddfeydd. Mae ei ymchwil yn ystyried priodweddau mathemategol a chanlyniadau'r cymesureddau hyn, sy'n sylfaenol i lawer o feysydd ffiseg ac maen nhw hefyd yn fathemategol ddiddorol eu hunain.
Mae Dr Thomas Woolley yn fiolegydd mathemategol sy’n angerddol dros helpu gwyddonwyr eraill i ddeall systemau biolegol cymhleth yn well. Mae ei ymchwil yn cynnwys astudio'r patrymau mathemategol y tu ôl i smotiau ar bysgod a streipiau ar sebras. Ar hyn o bryd, mae'n ymchwilio i fodelau mathemategol o symudiad bôn-gelloedd.Bottom of Form
Dysgwch ragor am ein mathemategwyr yn yr ymgyrch Maths Can Take You Anywhere.