Penodi Laura Trevelyan yn Ganghellor Prifysgol Caerdydd
19 Chwefror 2025

Mae Laura Trevelyan, cyn-newyddiadurwraig y BBC ac eiriolwr blaenllaw dros yr agenda cyfiawnder unioni yn y Caribî, wedi cael ei phenodi'n Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd.
Mae Laura, a fu’n astudio newyddiaduraeth yng Nghaerdydd ac y dyfarnodd y Brifysgol Gymrodoriaeth Anrhydeddus iddi yn 2022 i gydnabod ei gwasanaeth i newyddiaduraeth ryngwladol, yn olynu’r Farwnes Jenny Randerson yn y rôl.
Y Canghellor yw swydd anrhydeddus fwyaf blaenllaw’r Brifysgol ac mae'n cynnwys llywyddu yn y seremonïau graddio a dyletswyddau seremonïol allweddol eraill.
“Mae'n anodd gen i fynegi gymaint o fraint yw’r penodiad hwn imi, dw i wrth fy modd,” meddai Laura.
Mae Caerdydd wedi llunio cwrs fy mywyd ac alla i ddim diolch i'r Brifysgol yn ddigonol am roi'r anrhydedd hwn imi. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at wasanaethu Caerdydd a bod yn llysgennad i'r Brifysgol sydd wedi rhoi cymaint imi.
Mae Laura yn un o’r newyddiadurwyr uchaf ei pharch yn y DU ac UDA, gan fwynhau gyrfa 30 mlynedd gyda BBC News. Mae hi wedi bod yn dyst i hanes yn y DU a ledled y byd, gan adrodd yn fyw o Ogledd Iwerddon wrth i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith gael ei negodi ym 1998, o bencadlys Donald Trump ar noson yr etholiad yn 2016 ac o risiau adeilad y Capitol yn UDA ar 6 Ionawr 2021 yn ystod y terfysgoedd yno.
Cyn gadael y BBC, arweiniodd Laura ei theulu ar daith hanesyddol i Grenada ym mis Chwefror 2023, lle ymddiheurodd teulu Trevelyan yn gyhoeddus i bobl Grenada am rôl eu hynafiaid yn y gwaith o gaethiwo pobl o Affrica ar yr ynys. Traddododd hefyd ddarlith gyntaf Syr Tom Hopkinson ym mis Mawrth 2024 pan alwodd ar i lywodraeth Prydain a'i phrif sefydliadau ymchwil wneud ymrwymiad ariannol i gadw archifau mewn perygl yn y Caribî.
Dyma a ddywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner: “Rwy'n falch iawn bod Laura wedi cytuno i fod yn Ganghellor, a mawr ddiolch i'r Farwnes Randerson am ei gwasanaeth ymroddedig a ffyddlon.”
Mae Laura yn newyddiadurwr rhyngwladol uchel ei pharch ac yn eiriolwr blaenllaw dros yr agenda cyfiawnder unioni yn y Caribî. Nid yw chwaith yn ddieithr i'r Brifysgol gan iddi fagu ei sgiliau newyddiadurol gyda ni a dod yn Gymrawd Anrhydeddus yn 2022. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Laura a'i chroesawu yn ôl i Gaerdydd dros y misoedd nesaf.
Laura yw cyd-sylfaenydd Heirs of Slavery, sef grŵp o bobl o Brydain yr oedd eu hynafiaid wedi elwa ar gaethiwo pobl o Affrica yn y Caribî.
Mae Heirs of Slavery yn annog teuluoedd eraill sydd â hanes tebyg i gydnabod y gorffennol cythryblus hwn ac yn galw ar i lywodraeth Prydain gymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch cyfiawnder unioni gyda llywodraethau yn y Caribî. Mae hi'n cymryd rhan yn neialog gyntaf UNESCO er cyfiawnder unioni. Mae Laura yn Gymrawd Anrhydeddus yn Sefydliad PJ Patterson er eirioli dros Affrica a’r Caribî ym Mhrifysgol India’r Gorllewin.
Cyfarfu â'i gŵr, James Goldston, tra y buodd yn astudio yng Nghaerdydd. James yw cyn-lywydd ABC News ac erbyn hyn yn Llywydd Candle True Stories, cwmni ffilmiau dogfen byd-eang.
Mae Laura yn aelod o'r Cyngor ar Gysylltiadau Tramor ac yn un o ymddiriedolwyr Llyfrgell Gladstone yng Nghymru. Mae hi'n awdur dau o lyfrau, A Very British Family; The Trevelyans and their World, a The Winchester; An American Dynasty.