Dr Maryam Lotfi yn ymuno â phwyllgor BSI i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern
18 Chwefror 2025

Mae Dr Maryam Lotfi, Cyd-gyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Caethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol Ysgol Busnes Caerdydd, wedi’i phenodi i Bwyllgor Caethwasiaeth Fodern y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI).
Mae’r rôl fawreddog hon yn ei gosod yn y rheng flaen wrth lunio polisïau a safonau cenedlaethol i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern.
Mae'r BSI yn helpu busnesau i gynnig gwell cynnyrch, helpu llywodraethau i ddeddfu gwell rheoleiddio, a chytuno ar safonau sy'n mynd i'r afael â heriau mwyaf y gymdeithas
Mae penodi Dr Lotfi yn ei galluogi i ddylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygu ac adolygu safonau caethwasiaeth fodern
“Mae’n anrhydedd i mi ymuno â Phwyllgor Caethwasiaeth Fodern y BSI. Mae'r rôl hon yn rhoi cyfle anhygoel i lunio safonau sy'n cael effaith wirioneddol ar arferion busnes a hawliau dynol. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio ag arbenigwyr ledled y wlad i ysgogi newid cadarnhaol a chryfhau arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn y maes hollbwysig hwn.”
Mae'r cyflawniad hwn hefyd yn dod â chydnabyddiaeth i Brifysgol Caerdydd, a hon yw’r bumed sefydliad yn y DU i ymuno â'r pwyllgor. Mae Caerdydd bellach ochr yn ochr â Choleg y Brenin, Llundain, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Manceinion, a Phrifysgol Sheffield, ynghyd â’r Swyddfa Gartref a sefydliadau allweddol eraill sy’n mynd i’r afael â’r mater byd-eang pwysig hwn.
Rhagor o wybodaeth am y Grŵp Ymchwil i Gaethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.