Diweddariad am y cynigion ar gyfer ein Dyfodol Academaidd
17 Chwefror 2025

Darllenwch neges gan Nicola Innes, Rhag Is-Ganghellor Dros Dro, ar gyfer Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr ar 17 Chwefror.
Gan fod hwn yn gopi o e-bost a anfonwyd i fyfyrwyr, mae'r dolenni o fewn yr e-bost ar fewnrwyd y myfyrwyr, felly mae angen mewngofnodi i gael mynediad.
Annwyl fyfyriwr,
Ddydd Mercher aeth ein Is-Ganghellor yr Athro Wendy Larner a minnau i'r digwyddiadau ymgynghori â myfyrwyr cyntaf i drafod y cynigion ar gyfer 'Ein Dyfodol Academaidd' gyda chi.
Os bydd y cynigion yn effeithio'n uniongyrchol ar eich ysgol, byddant yn rhannu manylion am gyfleoedd i drafod yr ymgynghoriad gyda chi cyn bo hir. Yn y cyfamser, rydym wedi dechrau rhestru'r holl gyfarfodydd a digwyddiadau ymgynghori a drefnwyd ar eich cyfer hyd yn hyn.
Rwyf wedi nodi'r holl gwestiynau a ofynnoch chi ac rwyf wedi ymrwymo i ateb cymaint o'r rhain â phosibl dros yr wythnosau nesaf. Rydym wedi dechrau ychwanegu'r cwestiynau rydych chi wedi'u gofyn fwyaf, a'n hatebion, i fewnrwyd y myfyrwyr. Mae rhai o'r prif rai ar gael isod.
Os nad ydych yn gallu mynychu'r digwyddiadau hyn, gallwch hefyd roi adborth drwy ebostio newid-change@cardiff.ac.uk.
Mae eich cefnogi yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â Cyswllt Myfyrwyr, neu'r Ganolfan Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr.
Cofion cynnes,
Yr Athro Nicola Innes
Rhag Is-Ganghellor Dros Dro, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
Allwch chi egluro’n syml beth yw 'Ein Dyfodol Academaidd'?
Prosiect y Brifysgol yw Ein Dyfodol Academaidd sy'n edrych ar ba ddisgyblaethau a phynciau rydyn ni’n eu haddysgu ac yn ymchwilio ynddyn nhw, i ddeall ble gallwn ni ehangu, ble mae angen i ni wella, a’r hyn sydd angen i ni ei ystyried o’r newydd. Rydyn ni’n gwneud hyn i sicrhau bod y Brifysgol yn cynnig y profiad gorau posibl i fyfyrwyr ar draws ei phortffolio o raglenni gradd a'i bod yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ydy'r penderfyniadau eisoes wedi'u gwneud?
Na. Rydyn ni yng nghanol cyfnod ymgynghori tan 6 Mai. Yr hyn rydyn ni'n ei rannu yw cynigion, a gall pawb - myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach - gyfrannu, naill ai trwy roi adborth neu drwy gyflwyno cynigion amgen. Mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn y Brifysgol yn rhai go iawn. Mae modd i ni ystyried sut rydyn ni’n ymateb iddyn nhw yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn.
Ai 'rhywbeth' Prifysgol Caerdydd yn unig yw hwn?
Na. Mae llawer o brifysgolion yn y DU a thramor yn wynebu’r un problemau â ni oherwydd ffactorau gwleidyddol, ariannol, ac eraill. Mae rhai prifysgolion eraill yn y DU eisoes wedi bod yn y wasg yn gwneud newidiadau tebyg. Er bod llawer ohonyn nhw ddim wedi dweud eto sut maen nhw'n mynd i ddelio â'r materion hyn, bydd angen iddyn nhw wneud hynny ar ryw adeg. Does dim modd i unrhyw brifysgol fyw y tu hwnt i'w modd am byth. Rydyn ni wedi penderfynu wynebu'r heriau hyn nawr.