Cyfarfodydd i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig gael trafod ein Dyfodol Academaidd
14 Chwefror 2025

Darllenwch neges gan eich Rhag Is-Gangellorion a'r Deon ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig, a anfonwyd ar 14 Chwefror.
Gan fod hwn yn gopi o e-bost a anfonwyd i fyfyrwyr, mae'r dolenni o fewn yr e-bost ar fewnrwyd y myfyrwyr, felly mae angen mewngofnodi i gael mynediad.
Annwyl Ymchwilydd Ôl-raddedig,
Yn ddiweddar, fe wnaethon ni ysgrifennu atoch chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y byddwn ni’n dechrau cyflawni ein strategaeth, gan ddechrau gyda chynigion i lunio ein Dyfodol Academaidd.
Er mai cynigion yw’r rhain ac nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto, rydyn ni’n deall fod rhywfaint o’r wybodaeth wedi peri gofid i chi. Rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi y bydd rhai ohonoch chi eisoes wedi bod i Fforwm Trafod i fyfyrwyr, ac wedi rhoi cyfle i ni ateb eich cwestiynau chi yno.
Er mwyn gallu cynnal trafodaeth i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig, rydyn ni’n eich gwahodd i gyfarfod fydd yn cael ei drefnu ar y cyd gydag Undeb y Myfyrwyr. Bydd hyn yn rhoi amser penodol i ymchwilwyr ôl-raddedig drafod y cynigion gydag arweinwyr y brifysgol, i ofyn cwestiynau a chynnig adborth.
Diolch yn fawr i Micaela Panes, Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig Undeb y Myfyrwyr am hwyluso'r digwyddiadau hyn.
Bydd y canlynol yn bresennol yn y digwyddiad:
- Athro Nicola Innes, Rhag Is-Ganghellor Dros Dro, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Micaela Panes, Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig Undeb y Myfyrwyr
- Dr Liz Wren-Owens, Deon Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
Bydd 3 chyfarfod ddydd Mercher 19 Chwefror, un ar gyfer pob Coleg. Mae croeso i chi ddod unrhyw un o'r digwyddiadau hyn. Os ydych chi’n dod i gyfarfod ar gyfer coleg gwahanol, dylech ddeall na fydd pob maes trafod o bosib yn berthnasol i chi.
Rydyn ni’n deall y bydd rhai ohonoch chi’n ymwneud â gweithgarwch addysgu ar yr un pryd, neu efallai na fyddwch chi’n gallu cyrraedd y campws. Gallwch wylio ar-lein drwy ddilyn y dolenni isod, a byddwn ni’n recordio'r sesiwn ar Panopto i’w chyhoeddi yn dilyn y sesiynau.
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd (BLS)
- 15:15 i 16:00, Darlithfa 03, Adeilad Aberconwy
- Ymunwch â digwyddiad BLS ar-lein
Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (AHSS)
- 16:15 i 17:00, Darlithfa 03, Adeilad Aberconwy
- Ymunwch â digwyddiad AHSS ar-lein
Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (PSE)
- 17:15 i 18:00, Darlithfa 03, Adeilad Aberconwy
- Ymunwch â digwyddiad PSE ar-lein
Gallwch hefyd roi adborth drwy e-bostio newid-change@caerdydd.ac.uk.
Cofion cynnes,
Yr Athro Nicola Innes
Rhag Is-Ganghellor Dros Dro, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
Yr Athro Roger Whitaker
Rhag Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesi a Menter
Dr Liz Wren-Owens
Deon y Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig