Zohra Wardak yn Ennill Gwobr Traethawd Hir arobryn am ei Hymchwil ar Fwslimiaid Cymreig ar wasgar
18 Chwefror 2025

Mae myfyrwraig yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Zohra Wardak, wedi ennill Gwobr Traethawd Hir 2024 y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol am ei hymchwil ar brofiadau Mwslimiaid Cymreig ar wasgar.
Ei thraethawd hir, “Ummatic” diaspora of diasporas? Mae Translating the Ummah in a diasporic context through the experiences of Welsh Muslims living in diaspora, yn ystyried sut mae Ummah - y gymuned Fwslemaidd fyd eang - yn cael ei phrofi gan Fwslimiaid Cymreig.
Cafodd ei hysbrydoli gan ei chefndir ei hun a'i goruchwyliwr Dr Richard Gale a dogfennau ymchwil amrywiol Wardak o’r broses o ymfudo sy’n tynnu sylw at y gymuned Ummah fel y ‘diaspora of diasporas’.
Cynhaliodd Zohra gyfweliad gyda’r Gweithgor Hil, Diwylliant a Chydraddoldeb (RACE) o’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol ar y cyd â Sefydliad Daearyddwyr Prydain am ei phrofiad o ysgrifennu’r traethawd hir.
Dywedodd Zohra, ‘’Mae’r byd Mwslimaidd yn sefyll ynghyd mewn poen, dioddefaint, a dyfalbarhad.’’ “Roedd clywed hanes fy nghyfranogwyr - boed hynny am y Nakba Palestinaidd, mudo llafur ôl-drefedigaethol, neu gael eu magu yng Nghymru - i gyd yn deimladwy iawn.
I ddechrau, roedd Zohra mewn penbleth ynglŷn â dewis ei phwnc, gan ei bod hi eisiau iddo fod yn ystyrlon. “Ro’n i'n gofyn i fi fy hun o hyd, 'beth felly?' Ro’n i eisiau i fy ngwaith gael effaith.” Ar ôl pendroni am hir, fe ddaeth ei syniad ymchwil yn glir, gan ei galluogi hi i ysgrifennu gyda brwdfrydedd ac eglurder.
Mae hi’n cynghori myfyrwyr y dyfodol i gynllunio ymlaen llaw: ‘’Gorffennais i fy mhwnc mis a hanner cyn y dyddiad cyflwyno, a oedd yn golygu aros yn effro drwy’r nos ac yfed llawer o goffi! Mae cael syniad clir o’r cychwyn cyntaf yn gwneud y broses yn llawer yn haws.”
Mae Zohra yn canmol damcaniaethwyr fel Edward Said a Khaled Beydoun am gael dylanwad ar ei ffordd o feddwl. Mae hi’n disgrifio dewis i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn “un o’r penderfyniadau gorau rwy wedi’i wneud erioed” ac mae’n canmol rhagoriaeth ymchwil yr Ysgol.
Mae hi’n gobeithio dilyn gyrfa ymchwil, a chyfrannu at drafodaethau am ddad-drefedigaethu yn y De byd-eang ac Islam. ‘’Rwy’n mynd i barhau i gymryd rhan weithredol mewn trafodaethau cyfoes ac i ystyried y byd mewn cyd-destun daearyddol.’’
Darllenwch gyfweliad llawn Zohra.