Uned DPP Adolygiad o’r Flwyddyn 2024
17 Chwefror 2025

Mae strategaeth Prifysgol Caerdydd wedi'i seilio ar genhadaeth feiddgar: cyd-greu a rhannu gwybodaeth newydd sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer byd gwell i genedlaethau'r dyfodol - ac yn yr uned DPP, rydyn ni’n helpu i gyflawni hyn.
Mae’n bleser gennyn ni gyflwyno’n Hadolygiad o’r Flwyddyn 2024, sy’n manylu ar y gwahanol agweddau o’n gwaith a sut rydyn ni’n datblygu ac yn meithrin cyfleoedd rhyngddisgyblaethol sy’n cefnogi amcanion strategol y brifysgol.
Byddwn ni’n cynnig dysgu gydol oes hyblyg, wedi'i deilwra i'n myfyrwyr sy'n rhoi dewisiadau, llais a gallu iddyn nhw. Byddwn ni hefyd yn darparu gwybodaeth a sgiliau sy'n addas ar gyfer y dyfodol y gallan nhw eu defnyddio yn y byd go iawn i gyflawni eu dyheadau. Byddwn yn addysgu ein myfyrwyr mewn ffordd sy’n eu datblygu ymhellach i fod yn wydn, yn feirniadol, ac i allu datrys problemau. Byddan nhw’n rhoi newid ar waith ac yn gwybod sut i gydweithio mewn byd sy’n ansicr ac yn rhyngddisgyblaethol, sy’n cwmpasu sawl sector, ac sydd wedi'i ddigideiddio.
Wrth wraidd ymrwymiad y brifysgol i fynd i’r afael â’r prif heriau sy’n wynebu’r byd yw canolbwyntio ar addysgu’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen ar unigolion a sefydliadau i ffynnu mewn amgylchedd sy’n gyson newid. Dyma lle mae’r Uned DPP yn camu i’r adwy – gan weithredu fel pont ar draws y brifysgol, gan uno academyddion â’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i ddylunio rhaglenni hyfforddi blaengar sy’n mynd i’r afael â heriau mawr ein hoes.
Yn 2024, mae ein portffolio datblygiad proffesiynol wedi cynnwys meysydd hanfodol megis newid yn yr hinsawdd a'r llwybr i sero net, arloesi iechyd, AI a thechnolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae pob un o'r meysydd hyn yn gofyn am uwchsgilio ar frys, ailsgilio, a sgiliau newydd i yrru atebion arloesol yn eu blaenau.
Yn ein hadolygiad rhyngweithiol o'r flwyddyn, rydym wedi categoreiddio ein prif feysydd gwaith i'r categorïau canlynol: gweithio gyda sefydliadau byd-eang, defnyddio DPP i fynd i'r afael â heriau mawr y DU, a thrawsnewid cymunedau lleol. Mae ein hadolygiad yn llawn dop o ddolenni i fideos, cyrsiau, gwefannau partneriaid a rhanddeiliaid, ac erthyglau ac adroddiadau a allai fod o ddiddordeb i chi yn ein barn ni.
Os hoffech chi drafod sut y gall yr Uned DPP helpu eich busnes neu sefydliad i ddatblygu cyfleoedd datblygiad proffesiynol, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm cyfeillgar: