Trawsnewid cymunedau lleol - troi arbenigedd academaidd yn DPP
20 Chwefror 2025

Mae De Cymru yn ailddyfeisio ei hun yn ganolbwynt arbenigedd mewn meysydd twf pwysig ac yn datblygu arloesedd lleol ar draws sectorau.
Rydyn ni’n bartner allweddol, gan drosi ymchwil academaidd a chynnwys gradd yn hyfforddiant ymarferol ystyrlon, partneru â sefydliadau i gynnig lleoedd am bris gostyngol, sydd yn ei dro o fudd i’r gymuned leol, a datblygu cyfleusterau eithriadol i feithrin arloesedd a chydweithio.
Gellir mynd i'r afael â heriau byd-eang yn lleol. Er enghraifft, archwiliodd ein gwaith gyda’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio i greu gweithdy Cynllunio Digidol ar gyfer ymarferwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr sut y gall offer digidol fynd i’r afael â heriau yn y system gynllunio a llywio ei thrawsnewidiad digidol. Cefnogwyd y cwrs hwn gan RTPI Cymru; Er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf bosibl yn lleol, gwnaethom flaenoriaethu lleoedd cwrs ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio yng Nghymru, gan sicrhau y byddai'r mewnwelediadau a geir yn gwella gwasanaethau lleol yn uniongyrchol.
Byddwn ni’n fwy gweladwy ac yn bresennol mewn cymunedau amrywiol, gan adael i wybodaeth lifo i'r ddau gyfeiriad, a rhannu ein hadeiladau a'n hadnoddau. Bydd Caerdydd a Chymru’n cael eu hadlewyrchu ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud, o’n hagwedd, ein timau, ein buddsoddiadau, ein cyfleusterau, ein partneriaethau, ein gwaith ar y cyd, a’n heco-systemau.
Yn yr un modd, gall manteisio ar arbenigedd mewn meysydd fel gofal lliniarol i ddatblygu gweithgareddau DPP ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol gyfrannu mewnwelediad gwerthfawr i ddadleuon fel y Mesur Marw â Chymorth.
Her fawr fyd-eang arall yr ydym yn mynd i’r afael â hi ar lefel leol yw AI Generative a sut i harneisio AI i gefnogi sefydliadau fel y GIG, gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru. Gweithio ar y cyd â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, sydd wedi'u lleoli ochr yn ochr â'n tîm yn sbarc | spark, fe wnaethon ni greu cwrs peilot gyda’r bwriad o gyflwyno cynnwys ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Wrth i alluoedd deallusrwydd artiffisial wella ac esblygu, byddwn ni’n gallu darparu cyrsiau pwrpasol pellach gan ddefnyddio arbenigedd academyddion ar draws y brifysgol.
Yn dilyn y cwrs peilot, a arweiniwyd gan yr Athro Omer Rana o'r brifysgol, mae'r ganolfan wedi comisiynu dau gwrs pellach.
Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â sefydliadau lleol i sicrhau grantiau a chyllid i alluogi cwmnïau lleol ac unigolion i ennill sgiliau newydd neu ailhyfforddi mewn meysydd allweddol. Mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) a Choleg Caerdydd a'r Fro, rydyn ni wedi cefnogi clwstwr CSConnected a gwella arbenigedd rhanbarthol gan gynnig 128 o lefydd wedi’u hariannu ar gyrsiau DPP mewn Ystafelloedd Glân, Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Daeth yr arian o'r Rhaglen Datblygu a Thwf Clwstwr (CDGP), a chafodd ei ariannu ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) a Chronfa Rhannu Ffyniant (SPF) Llywodraeth y DU.
Rydyn ni hefyd wedi sicrhau cyllid ychwanegol o ganlyniad i estyniad y prosiect Cronfa Cryfder mewn Lleoedd (SIPF) i ddatblygu ac i rhedeg rhaglen beilot lôn gyflym i integreiddio peirianwyr o feysydd cysylltiedig, i’w chyflwyno yn ystod 2025. Bydd y profiad hyfforddi dwys hwn yn amhrisiadwy i ddenu talent peirianneg i’r sector ar adeg dyngedfennol o’r twf a ragwelir, a bydd yn darparu cyfleoedd ailsgilio pwysig i weithwyr yr effeithir arnynt gan ddiswyddo.
Mae’r prosiect CSconnected yn cael effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol a chadarnhaol ar Gaerdydd a Chymru; rydyn ni’n adeiladu cryfder mewn lleoedd trwy weithgynhyrchu uwch, ac yn ysgogi cynnydd sylweddol ar Barth Buddsoddi CCR.
Eleni, rydyn ni wedi datblygu ein perthynas bresennol ag unedau ymchwil, gan ehangu ein rôl yn eu cynnyrch Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Er enghraifft, mae DECIPHer (y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd) yn sbarc|spark yn cynnal cyfres flynyddol o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Fe wnaethon ni gefnogi’r gwaith o gynnal y gyfres, gan wella taith y cwsmer, mireinio negeseuon cyfathrebu a gwella ymhellach y profiad o gadw lle.
Fe wnaethon ni barhau i gydweithio’n llwyddiannus ag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, gan integreiddio rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus ychwanegol i’n system rheoli cyrsiau. Er mwyn gwella profiad y cwsmer, fe wnaethon ni symleiddio’r daith i’w gwneud yn fwy effeithlon a datblygu negeseuon e-bost dwyieithog ar gyfer pob cam o’r broses Tystion Arbenigol, gan leihau’r llwyth gwaith gweinyddol a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â phrosesau lywodraethu’r Brifysgol.
Roedd hyfforddi tîm Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn ganolbwynt allweddol arall. Fe wnaethon ni baratoi amserlen hyfforddi gynhwysfawr, gan gynnwys dogfennau canllaw, fideos cyfarwyddiadol a phrosesau ysgrifenedig, i’w helpu i ddod i arfer â’r system newydd.
Cysylltu â ni
Oes gennych chi ddiddordeb mewn sut gallwn ni greu DPP ymarferol, seiliedig ar ymchwil ar gyfer eich sefydliad? Cysylltwch â'n tîm cyfeillgar am sgwrs gychwynnol.