Cydymaith ymchwil yn ennill Gwobr Ddoethurol fawreddog y Gymdeithas Ymchwil Weithredol
13 Chwefror 2025

Mae Dr Elizabeth Williams wedi ennill Gwobr Doethuriaeth y Gymdeithas Ymchwil Weithredol (OR) ar gyfer 2023 am y traethawd doethurol a gyflawnodd yn ystod ei PhD yn yr Ysgol Mathemateg.
Enillodd traethawd ymchwil Elizabeth ar 'Gysylltu dadansoddeg ragfynegol a rhagnodol ar gyfer modelu gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer cleifion bregus ac oedrannus,' o blith rhestr fer gystadleuol o wyth yn y rownd derfynol.
“Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd. Roedd fy nhraethawd ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau dadansoddol arloesol i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau gofal iechyd i gleifion bregus ac oedrannus. Drwy gyfuno gwahanol fathau o ddadansoddiadau, mae modd rhagweld anghenion cleifion yn well a chynllunio gwasanaethau’n fwy effeithiol, gan sicrhau bod y gofal cywir ar gael ar yr amser cywir."
Hoffwn ddiolch i’m goruchwylwyr, yr Athro Daniel Gartner a’r Athro Paul Harper, am eu cefnogaeth anhygoel.
Mae'r gamp hon yn garreg filltir arwyddocaol i Brifysgol Caerdydd, gan fod myfyrwyr PhD o Grŵp Ymchwil Weithredol yr ysgol bellach wedi ennill Gwobr Ddoethurol y Gymdeithas Ymchwil Weithredol dair gwaith yn y 15 mlynedd diwethaf. Mae'r wobr hon yn agored i fyfyrwyr PhD o brifysgolion ledled y DU.
Mae’r llwyddiant hwn yn dilyn yn ôl-troed enillwyr blaenorol Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys Dr Geraint Palmer, a enillodd yn 2018, a Dr Richard Wood, a dderbyniodd yr anrhydedd yn 2011.
Llongyfarchiadau i Elizabeth ar y gamp ragorol hon, sy'n amlygu ei hymroddiad unigol a rhagoriaeth barhaus cymuned ymchwil weithredol ein hysgol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth mae Elizabeth yn ei gyflawni nesaf!
Derbyniodd Elizabeth y wobr yn ystod Darlith Blackett y Gymdeithas Ymchwil Weithredol ar 5 Rhagfyr 2024, yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain.