Mae gwyddonwyr wedi creu hydrogen heb allyriadau CO2 uniongyrchol yn y ffynhonnell
13 Chwefror 2025
![Delwedd o gyfleuster cynhyrchu ynni hydrogen adnewyddadwy.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/2897098/Renewable-hydrogen-storage-facility.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Datblygodd tîm rhyngwladol o wyddonwyr ffordd newydd o greu hydrogen sy'n dileu allyriadau CO₂ uniongyrchol yn y ffynhonnell.
Mae'r broses yn adweithio gyda bioethanol sy'n gyfoethog mewn hydrogen a ffynonellau cynaliadwy a gymerwyd o wastraff amaethyddol, ac mae’r dŵr ond yn gweithredu ar 270°C gan ddefnyddio catalydd deufetel newydd.
Yn wahanol i ddulliau traddodiadol, sy'n gweithredu rhwng 400-600°C, sy'n ynni-ddwys ac yn cynhyrchu llawer iawn o CO₂, mae'r catalydd yn symud yr adwaith cemegol i greu hydrogen heb ryddhau carbon deuocsid yn sgilgynnyrch.
Yn lle hynny, mae'r broses yn cyd-gynhyrchu asid asetig gwerth uchel, sef hylif organig a ddefnyddir ym maes cadwraeth bwyd, cynnyrch glanhau cartrefi, gweithgynhyrchu a meddygaeth, ac mae mwy na 15 miliwn o dunelli’n cael eu defnyddio’n fyd-eang bob blwyddyn.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Peking a Phrifysgol Caerdydd yn dweud bod yr astudiaeth yn hwb i ddadffosileiddio'r diwydiant cemegol drwy ddefnyddio ffynhonnell carbon arall yn hytrach na phorthiannau ffosil a ddefnyddir i wneud cemegau.
Mae eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn Science, yn gyfystyr â newid sylweddol ym maes cynhyrchu hydrogen sy’n niwtral o ran carbon, ac yn sefydlu model economi gylchol i gynhyrchu hydrogen yn ogystal â chemegau gwerth uchel o fiomas.
Dyma a ddywedodd yr Athro Graham Hutchings, Athro Regius Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae dod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o greu’r cynnyrch sydd eu hangen arnon ni ar gyfer bywyd bob dydd a bodloni’r uchelgais sero net at y dyfodol yn her allweddol sy’n wynebu’r diwydiant cemegol.”
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/42597/Prof-Graham-Hutchings-FRS.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Mae hydrogen yn cael ei ystyried yn eang yn un ffordd o gyflawni’r uchelgais hwn gan ei fod yn deillio o nwy naturiol. Fodd bynnag, mae'n hynod o ddwys o ran ynni ac, wrth gwrs, pan gaiff ei greu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol, mae'n cynhyrchu llawer iawn o garbon deuocsid, gan gyfyngu felly ar ei fanteision amgylcheddol. Mae ein hastudiaeth yn cynnig llwybr newydd sy’n ein caniatáu i gynhyrchu hydrogen cynnyrch uchel heb yr allyriadau CO2.
Yn ôl yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol (IEA), mae tua 96% o gynhyrchu hydrogen byd-eang yn dibynnu o hyd ar danwydd ffosil, gan allyrru 9-12 tunnell o CO fesul tunnell o hydrogen.
Mae datblygiad arloesol y tîm yn ychwanegu at fwy na degawd o brofiad ymchwil ar y cyd gan y grŵp rhyngwladol ar gatalyddion metel-carbid ym maes cynhyrchu hydrogen.
Dyma a ddywedodd yr awdur arweiniol yr Athro Ding Ma o Brifysgol Peking: “Mae gan y dechnoleg gatalytig arloesol hon gryn addewid o ran hyrwyddo’r economi hydrogen werdd a chefnogi nodau byd-eang ar niwtraliaeth carbon.”
Ar ben hynny, mae cynhyrchu asid asetig ar y cyd, sef cemegyn y gellir ei ddefnyddio mewn sawl maes diwydiannol, yn gwella hyfywedd economaidd a chynaliadwyedd y dechnoleg.
Ychwanegodd yr Athro Hutchings, a gadeiriodd sesiwn friffio y llynedd ar bolisi i’r Gymdeithas Frenhinol er ddadffosileiddio’r diwydiant cemegol: “Drwy greu’r ddau gemegyn ar y cyd, mae’n bosibl y bydd yr arloesi hwn yn ddewis posibl o ran creu carbon isel i ddiwydiannau fel gweithgynhyrchu ffibr asetad a rhyngolynnau fferyllol yn y dyfodol.”
Cyhoeddir eu papur, ‘Thermal catalytic reforming for hydrogen production with zero CO₂ emission’ yn y cyfnodolyn Science.