Prifysgol Caerdydd yn sicrhau dyfarniad newydd gan AHRC
11 Chwefror 2025
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2896595/Main-bldg-Feb-2025-news-article.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith 50 o sefydliadau addysg uwch i sicrhau dyfarniad newydd gan AHRC er mwyn meithrin y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ym meysydd y celfyddydau a’r dyniaethau.
Mae Dyfarniadau’r Maes Doethurol AHRC yn cynnig dull newydd o ariannu astudiaethau doethurol. Cafodd manylion y dyfarniadau hyn eu cyhoeddi’n wreiddiol gan AHRC yn 2023. Maen nhw’n cymryd lle’r Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol blaenorol, a recriwtiodd eu carfanau olaf eleni.
Dywedodd yr Athro Christopher Smith, Cadeirydd Gweithredol AHRC: “Mae Dyfarniadau’r Maes Doethurol AHRC yn cynnig cyllid hyblyg i alluogi prifysgolion i adeiladu ar ragoriaeth bresennol mewn ymchwil a chyfleoedd i arloesi ym meysydd y celfyddydau a’r dyniaethau.
“Byddan nhw’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu pobl dalentog ac, ochr yn ochr â’n cynlluniau doethurol eraill, yn cyfrannu at system ymchwil ac arloesedd fywiog, amrywiol a rhyngwladol ddeniadol.”
Bydd y cyllid sydd ar gael drwy'r cynllun newydd yn cefnogi 15 ysgoloriaeth – tair y flwyddyn – ym mhob un o'r 50 sefydliad addysg uwch sydd wedi sicrhau dyfarniad. Mae'r cyllid yn seiliedig ar ysgoloriaeth sy’n para pedair blynedd.
Bydd Prifysgol Caerdydd yn croesawu ei charfan gyntaf o fyfyrwyr doethurol ym mis Hydref 2026.
Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesedd Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydyn ni’n falch iawn o fod ymhlith 50 sefydliad addysg uwch i gael eu dewis ar gyfer y dyfarniad hwn gan AHRC. Mae’n dyst i gryfder a dyfnder arbenigedd ymchwil Prifysgol Caerdydd ym meysydd y celfyddydau a’r dyniaethau. Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r gydnabyddiaeth hon.”
Ychwanegodd Dr Liz Wren-Owens, Deon Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd: “Rwy'n adleisio teimladau Claire. Dyma newyddion gwych i Brifysgol Caerdydd ac i ymchwil ac ymchwilwyr ym meysydd y celfyddydau a'r dyniaethau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r garfan gyntaf o fyfyrwyr i’n cymuned a manteisio ar y cyfleoedd i gydweithio a chyd-greu prosiectau ymchwil ddoethurol newydd. Rydyn ni’n ymwybodol bod ymchwil ym meysydd y celfyddydau a’r dyniaethau’n chwarae rhan bwysig o ran sut rydyn ni’n deall ac yn llywio ein byd.”
“Rhan o’n gwaith nawr, cyn croesawu’r garfan gyntaf honno o fyfyrwyr, yw gweithio gyda’r sefydliadau addysg uwch eraill yn ein rhanbarth sydd wedi sicrhau dyfarniad i greu hyb yng Nghymru a fydd yn cynnal gweithgareddau hyfforddi a datblygu arloesol ar gyfer y genhedlaeth nesaf hon o ymchwilwyr doethurol. Bydd ein system ymgeisio ar gael yn yr hydref, a byddwn ni’n sicrhau bod gan yr ymgeiswyr yr adnoddau a’r wybodaeth sy’n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddyn nhw ystyried ymuno â ni ym Mhrifysgol Caerdydd.”