Partneriaeth newydd gyda Advanced Timber Hub ar fin ysgogi arloesedd cynaliadwy
11 Chwefror 2025

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi ymuno ag Advanced Timber Hub (ATH) o dan arweiniad Prifysgol Queensland, sef partneriaeth arloesol yn canolbwyntio ar wneud cadwyni cyflenwi coed pren cynaliadwy, strategaethau sero net ac economïau gylchol.
Mae'r Athro Vasco Sanchez Rodrigues a’r Athro Calvin Jones yn rhannu eu harbenigedd mewn gweithrediadau sero net, gwydnwch y gadwyn gyflenwi, ac economeg coed pren cynaliadwy i wneud gwaith ar y cyd gyda arweinwyr y diwydiant megis Arup, AKD, Aurecon, a Hyne Timber, ochr yn ochr â’r sefydliadau ymchwil gorau, gan gynnwys Prifysgol Canterbury, y Sefydliad Technoleg Brenhinol, Prifysgol Columbia Brydeinig (UBC) a 12 o brifysgolion eraill yn Awstralia.
Mae'r bartneriaeth hon yn cyd-fynd yn agos ag ethos Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd, sy’n rhoi cyfleoedd newydd i gyfnewid gwybodaeth rhwng y DU a'r sector coedwigaeth a’r sector coed rhyngwladol. Mae'r gwaith ar y cyd ar fin ysgogi ymchwil effeithiol, dylanwadu ar arferion yn y diwydiant, a denu cyllid gan y llywodraeth a'r diwydiant i roi hwb i ddatblygiadau arloesol y dyfodol.
Mewn amser, nod Ysgol Busnes Caerdydd yw gwneud rhagor o gyfraniadau tuag at yr Advanced Timber Hub, a fydd yn helpu i ganolbwyntio ymdrechion byd-eang tuag at economi coed mwy cynaliadwy.
Mae’r Athro Vasco Sanchez Rodrigues yn arweinydd yr Advanced Timber Hub yn Ysgol Busnes Caerdydd:
“Mae’r bartneriaeth hon yn llawn potensial i ddatblygu ymchwil gymhwysol o'r radd flaenaf, cyd-greu gwybodaeth a cynhyrchu cyllid allanol. Mae'n rhoi sylfaen wirioneddol gadarn ar gyfer sefydlu partneriaeth ehangach rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Queensland.”
Mae Dr Cristyn Meath, Arweinydd Thema’r Advanced Timber Hub ac Arweinydd ar gyfer Cynllunio Newid ac Arweinydd Nodau - Cyfleoedd economaidd-gymdeithasol ac ymyriadau ar gyfer newid, "Rwy'n falch iawn o groesawu Ysgol Busnes Caerdydd i'r Advanced Timber Hub, ac edrychwn ymlaen at gael gweithio ar y cyd mewn modd effeithiol a ffrwythlon drwy arloesedd ar y cyd gan gydweithwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Queensland, partneriaid academaidd eraill a phartneriaid yn y diwydiant.’’
Meddai’r Athro Calvin Jones, cyd-arweinydd Ysgol Busnes Caerdydd yn yr Advanced Timber Hub:
“ni allai unrhyw beth fod yn agosach at ein hethos Gwerth Cyhoeddus na seilwaith cynaliadwy, gwydn a chylchol. Mae'r bartneriaeth hon yn golygu y gallwn ni helpu i wireddu hynny drwy gydblethu technoleg uwch i fodelau busnes ymarferol a rhinweddol.’’
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gyfrannu at yr Advanced Timber Hub, cysylltwch â'r Athro Sanchez Rodrigues drwy e-bost ar sanchezrtodriguesva1@caerdydd.ac.uk.