Masnach dillad ail-law Haiti yn bwnc prosiect ymchwil
11 Chwefror 2025
Mae profiadau menywod o Haiti sy'n ymwneud â'r fasnach dillad ail-law yn Haiti yn cael eu dogfennu’n rhan o ymchwil academydd o Brifysgol Caerdydd.
Mae Dr Charlotte Hammond wedi treulio’r degawd diwethaf yn cyfweld â menywod sy’n ymwneud â Pèpè, y term yn Kreyòl am ddillad ail law yn Haiti sydd wedi bod yn cyrraedd mewn sypiau wedi’u tynnu ynghyd yn dynn o’r Unol Daleithiau ers y 1960au.
Mae ei llyfr yn ymddangos yn ddiweddarach eleni ac mae ffotograffiaeth Dr Hammond yn rhan o osodwaith celf ar hyn o bryd yn Oriel Anna-Maria a Stephen Kellen yn Efrog Newydd. Enw arddangosfa Ysgol Ddylunio Parsons yw Revolisyon Toupatou sy’n trin a thrafod celf a ffasiwn yn Haiti.
Dillad yw prif allforyn Haiti i'r Unol Daleithiau, ond ychydig, os o gwbl, o'r eitemau newydd sy’n parhau yn y wlad i'w defnyddio gan y bobl sy'n byw yno.
Mae dibyniaeth gynyddol Haiti ar pèpè, masnach fasnachol fyd-eang mewn ‘dillad ail-law’ tramor, wedi digwydd oherwydd y cytundebau rhyddfrydoli masnach rhwng gwledydd yr Unol Daleithiau a’r Caribî ers 1982. Agorodd hyn y llifddorau i’r fasnach ryngwladol dillad mewn ail-law a elwodd ar drefniadau di-doll ffafriol ac eithriadau rhag tollau.
Dywedodd Dr Hammond, sy’n gweithio yn yr Ysgol Ieithoedd Modern: “Mae’r cytundebau masnach anwastad hyn wedi bod yr un mor fuddiol i gyflenwyr dillad rhyngwladol sydd â ffatrïoedd yn Haiti. Mae dillad yn parhau i fod yn brif allforyn Haiti i'r Unol Daleithiau o ran pwysigrwydd. Dyma wrthddweud syfrdanol os ystyriwn mai anaml y bydd y dillad a gynhyrchir yn y sector cydosod dillad yn aros yn Haiti i'w defnyddio'n lleol. Tra bod gweithwyr dillad yn Haiti yn torri ac yn gwnïo dillad brand yr Unol Daleithiau i'w hallforio, mae Haitïaid yn cael eu gorfodi i chwilio am ddillad yn y sypiau o pèpè sy'n cyrraedd y wlad.
“Ar yr un pryd, mae masnach a rhoddion dillad ail-law yn rhoi cyflogaeth, incwm ffurfiol ac anffurfiol, yn ogystal â ffordd o gadw 'mewn cysylltiad' i Haitïaid ledled y byd. Mae brethyn yn creu undeb dros dro rhwng pobl; mae'n cysylltu'r gymuned neu lakou ar draws ffiniau geowleidyddol. Drwy economïau pèpè anffurfiol, mae menywod Haiti yn cymryd y cyfrifoldeb o ddarparu ar gyfer eu teuluoedd dramor. Magwyd cenedlaethau o Haitïaid ar pèpè ac aberthau mamau Haiti.”
Cewch weld Revolisyon Toupatou, arddangosfa gelf a ffasiwn Haiti a guradwyd gan yr Athro Jonathan Square (Parsons) a’r Athro Siobhan Meï (Prifysgol Massachusetts Amherst) tan Chwefror 15. Mae'r arddangosfa ddwyieithog (Saesneg ac iaith greole Haiti) yn trin a thrafod etifeddiaeth barhaus Chwyldro Haiti mewn celf a ffasiwn gyfoes, a cheir gwaith hefyd gan 19 o artistiaid Haiti.
Mae masnach anffurfiol symudol wedi bod yn ffordd i fenywod Haiti sicrhau cynnal eu hunain a bod yn annibynnol ers y cyfnod trefedigaethol. O fewn system pèpè sydd wrthi’n dirywio, mae menywod o Haiti a menywod o dras Haiti yn dewis llwybrau economaidd a rhwydweithiau hunanamddiffyn a gofal eraill i ymorol am eu teuluoedd yn UDA ond hefyd gartref yn Haiti. Rwy’n ddiolchgar i’r holl fenywod a rannodd eu hanesion gyda mi.
Tynnwyd lluniau Dr Hammond, sy’n dangos gwahanol agweddau ar Pèpè a’r bobl ynghlwm wrthi, yng ngogledd Haiti a Miami rhwng 2016 a 2024. Mewn cydweithrediad â’r Athro Square, argraffwyd y rhain ar ddillad ail-law’r curadwyr a'u dangos yno er mwyn pwysleisio cymhlethdod y Gorllewin a'i rhan ym myd ffasiwn gyflym.
Awdur llyfr ar y gweill gyda gwasg Bloomsbury, Material Mawonaj, sy’n trafod economïau dillad ail-law yn Haiti a'r Unol Daleithiau yw Dr Hammond.