Ysgol Busnes Caerdydd yn lansio MSc newydd mewn Cyllid gyda Thechnoleg Ariannol
10 Chwefror 2025

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi lansio MSc newydd mewn Cyllid gyda Thechnoleg Ariannol, sydd wedi ei chynllunio i roi’r arbenigedd i arweinwyr y dyfodol i ffynnu yn y byd ariannol sy’n cael ei ysgogi gan dechnoleg heddiw.
Mae'r rhaglen arloesol hon yn cyfuno egwyddorion cyllid traddodiadol gyda datblygiadau arloesol FinTech, gan baratoi myfyrwyr â'r arbenigedd i lwyddo mewn tirwedd ariannol fyd-eang sy'n esblygu. Gan drafod rheoli buddsoddiadau, cyllid corfforaethol, data mawr, deallusrwydd artiffisial, rhaglennu, a dysgu peirianyddol, mae'r MSc yn datblygu sgiliau hanfodol y mae galw mawr amdanyn nhw gan gyflogwyr blaenllaw.
Bydd myfyrwyr yn dysgu oddi wrth academyddion sy’n arwain y byd yn Ysgol Busnes Caerdydd, sefydliad sydd wedi’i achredu’n rhyngwladol ac sydd wedi ymrwymo i werth cyhoeddus, rhagoriaeth ymchwil, ac effaith yn y byd go iawn.
Mae'r rhaglen yn cynnig cydbwysedd o wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol, gan gynnwys mynediad at un o Ystafelloedd Masnachu mwyaf y DU, lle gall myfyrwyr efelychu amodau marchnad y byd go iawn.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Hao Li:
“Mae’r diwydiant cyllid yn esblygu’n gyflym, gyda thechnoleg yn sbarduno ar gyflymder digynsail. Mae ein MSc mewn Cyllid gyda Thechnoleg Ariannol wedi’i chynllunio i roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i fyfyrwyr allu llywio’r trawsnewid hwn.”
Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am adeiladu gyrfa mewn rolau cyllid traddodiadol neu sectorau FinTech sydd ag ymchwil arloesol, boed ym maes rheoli buddsoddi, masnachu neu weithio yn uwch weithredwr neu ymgynghorydd mewn sefydliadau corfforaethol ac ariannol.
Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen ar agor, gyda'r garfan nesaf yn dechrau ym mis Medi 2025.
Dysgwch ragor am Gyllid gyda Thechnoleg Ariannol (MSc)