Cynllun gofal iechyd y GIG yn croesawu'r nifer uchaf erioed o fyfyrwyr
7 Chwefror 2025
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0012/2895708/Hugh-James-Jon-Cropped.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae'r nifer uchaf erioed o fyfyrwyr yn y gyfraith wedi dechrau ar leoliad profiad gwaith gydag un o gwmnïau cyfreithiol blaenllaw Caerdydd yr wythnos hon.
Mae 80 o fyfyrwyr yn y Gyfraith wedi cofrestru i weithio ar Gynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG, sef cyfle pro bono sydd wedi ei lunio ac sy’n cael ei gynnig gan Hugh James, cwmni sydd ymhlith y 100 cwmni cyfreithiol gorau yn y DU ac sy'n cynnig cyngor cyfreithiol ac ariannol arbenigol.
Mae'r cynllun yn mynd i'r afael â'r materion sydd wedi codi o ganlyniad i boblogaeth sy'n heneiddio a'r cynnydd mewn dementia, sy’n broblem iechyd fawr yn y DU. Mae llawer o deuluoedd yn wynebu costau economaidd a goblygiadau sylweddol os oes angen i un o’u hanwyliaid fynd i fyw mewn cartref gofal. Mae'r cynllun hwn yn galluogi myfyrwyr i ddysgu'n uniongyrchol gan Hugh James drwy astudio ffug-ffeiliau achos, lle codwyd ffioedd cartref gofal ar gam ar deuluoedd.
Nod y cynllun yw dangos sut y gall canllawiau cyfreithiol gynnig budd ariannol ac emosiynol enfawr i bobl sy'n profi sefyllfa anodd a llawn straen.
Bydd y myfyrwyr yn gweithio ar y ffug-ffeiliau gyda mentoriaid o Hugh James tan fis Mawrth a'r gobaith yw y bydd y profiad y maen nhw’n ei gael yn eu helpu i hoelio sylw mewn marchnad swyddi gystadleuol ar ôl y brifysgol.
Dywedodd Hannah Marchant, sy'n arwain y cynllun Pro Bono yn yr ysgol, "Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i dîm Gofal Nyrsio Hugh James, ac i’n partner Lisa Morgan a'r Cydymaith Katie Morgan yn arbennig, am bob amser fod yn barod i gynnig cyfleoedd cyflogadwyedd a pro bono hanfodol i'n myfyrwyr. Maen nhw’n hynod o wybodus, yn frwdfrydig ac yn angerddol am eu gwaith, ac yn cynnig ysbrydoliaeth i'n myfyrwyr. Mae myfyrwyr yn ffodus iawn o gael y cyfle i ddysgu am y maes pwysig ac arbenigol hwn yn y gyfraith."
Dywedodd Lisa Morgan, Partner a Phennaeth y tîm Gofal Nyrsio yn Hugh James, "Rwy'n hynod falch o gael cefnogi'r cynllun hwn. Mae'r bartneriaeth rhwng yr ysgol a'r cwmni'n rhoi profiad go iawn i fyfyrwyr o weithio gyda chleientiaid a datblygu sgiliau ymarferwyr allweddol, a’n galluogi i ymwneud â'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr. Un o'r agweddau mwyaf buddiol yw gweld cyn-fyfyrwyr pro bono yn ymuno â'r proffesiwn ac yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus – yn rhan o Hugh James a thu hwnt. Rwy'n edrych ymlaen at gael cwrdd â myfyrwyr eleni, sef ein carfan fwyaf hyd yn hyn."
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth hefyd yn gweithio gyda Hugh James i gynnig cyfleoedd i wneud lleoliad gwaith fel paragyfreithiwyr y gall myfyrwyr y gyfraith Prifysgol Caerdydd wneud cais amdano yn eu hail flwyddyn. Yn ystod eu lleoliadau, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau sy’n allweddol i ymarferwyr megis rheoli achosion, ymchwil cyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol megis rheoli amser, gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol.