Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Arian Athena Swan yn cael ei dyfarnu i'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

5 Chwefror 2025

Mae ein hysgol yn falch o fod wedi ennill Gwobr Arian Athena Swan, sy’n garreg filltir arwyddocaol ac yn dyst i’n hymdrech barhaus i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes cyfrifiadureg a gwybodeg.

Rydyn ni’n hynod falch o’r cyflawniad hwn, sy’n dangos yn glir ein hymrwymiad i feithrin amgylchedd cynhwysol yn ein hysgol.

Fframwaith yw Siarter Athena SWAN a ddefnyddir ledled y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb rhywedd ym myd addysg uwch ac ymchwil.

Rhoddir gwobrau i sefydliadau sy’n gallu dangos lefelau cynyddol o arfer da o ran recriwtio, cadw a hyrwyddo menywod yn y meysydd hyn.

Ymhlith y mesurau a amlygwyd gan Athena Swan yn eu dyfarniad oedd y cynnydd yn nifer yr academyddion benywaidd yn yr ysgol a’n mentrau allgymorth.

Dywedodd Christopher Jones, Arweinydd Athena Swan yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: “Mae gwobr Arian Athena Swan yn adlewyrchu’r cynnydd gwych rydyn ni wedi’i wneud yn yr Ysgol yn y blynyddoedd diwethaf i wella ein diwylliant o ran cydraddoldeb rhywedd.

“Mae hyn yn cynnwys cynyddu cyfran yr academyddion benywaidd, gwneud ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rhan annatod o lawer o’n gweithgareddau, ein hystod eang o fentrau allgymorth i ysgolion, sawl menter i gefnogi datblygiad gyrfaol ar gyfer staff proffesiynol a staff gwasanaethau, a’r llu o ddigwyddiadau LHDTC+ a drefnir ar gyfer myfyrwyr.

“Mae ein llwyddiant wrth ennill y wobr yn dyst i’r ymrwymiad anhygoel i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith aelodau o staff ledled yr Ysgol, ac i ymdrechion ymroddedig aelodau ein tîm hunan-asesu Athena Swan.”