Caerdydd yn derbyn Gwobr Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil
5 Chwefror 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobr Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil i gydnabod ei hymdrechion i ddeall a mynd i'r afael â phroblemau sy'n wynebu cymuned Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol y Brifysgol.
Advance HE sy’n dyfarnu’r Wobr Efydd, ac mae’n nodi ymrwymiad y Brifysgol i gyrraedd cydraddoldeb o ran hil ym mhob rhan o’r sefydliad, i ddatblygu diwylliannau cynhwysol, ac esblygu o ymrwymo’n unig i weithredu beiddgar, uchelgeisiol, cynaliadwy ac integredig.
Yn dilyn cyhoeddi’r wobr, bydd y Brifysgol yn dechrau ar raglen waith sy’n para pum mlynedd, gyda’r nod o chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu staff a myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Meddai’r Profost a’r Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Damian Walford Davies, sy’n cadeirio is-bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Brifysgol: “Mae’n bwysig nodi yw nad yw’r wobr Efydd hon yn cydnabod bod y gwaith ar ben. Yn hytrach, mae’n nodi bod gan y sefydliad ddealltwriaeth feirniadol o'r hyn sydd angen ei newid ymhellach, ac ymrwymiad ar ei ran i sicrhau bod hynny'n digwydd. Dros y 14 mis diwethaf, mae Tîm Hunanasesu gydag aelodau o bob rhan o'r Brifysgol wedi gweithio'n galed i adnabod a deall yr anghyfartaledd a'r heriau sy'n ymwneud â hil sy'n bodoli ar ein campws.
“Mae ymgynghoriadau gyda’n cymuned o staff a myfyrwyr, ynghyd â gwaith dadansoddi data helaeth, wedi rhoi darlun cynhwysfawr i’r tîm hunanasesu o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r Brifysgol, ac sydd wedi arwain at ddatblygu cynllun gweithredu.
“Yn ogystal â gwaith y tîm hunanasesu, rydyn ni hefyd wedi adolygu ein strwythurau llywodraethu er mwyn cyrraedd y nod o fod yn brifysgol wrth-hiliol. Rydyn ni wedi cysylltu strategaeth newydd y Brifysgol – Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd – yn rhagweithiol â’n cynllun gweithredu ar y Siarter Cydraddoldeb Hil, a’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol er mwyn cydlynu a phrif-ffrydio ein gweithredoedd ar wrth-hiliaeth.”
Nod y Siarter Cydraddoldeb Hil yw gwella cynrychiolaeth, profiad, cynnydd a llwyddiant staff a myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig ym maes addysg uwch.
Mae'n cynnig fframwaith trwyadl a chadarn i alluogi sefydliadau i feddwl yn feirniadol, a gweithredu ar rwystrau sefydliadol a diwylliannol sy'n atal cynnydd a llwyddiant staff a myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig.
Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner: “Mae’r Wobr Efydd yn gydnabyddiaeth wych o’n gwaith i ddod i wybod am y problemau a’r realiti anghysurus sy’n wynebu ein cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig. Rwy’n ddiolchgar i’r tîm hunanasesu am eu hamser, eu hegni a’u harbenigedd yn y broses hon.”
Bydd cais llwyddiannus y Brifysgol i’r Siarter Cydraddoldeb Hil yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn yr wythnosau nesaf. Bydd Gwobr Efydd y Brifysgol yn ddilys am bum mlynedd.