Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu arweinwyr yn effeithiol gyda MSc Rheolaeth Peirianneg newydd

4 Chwefror 2025

Mae Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Busnes Caerdydd wedi creu partneriaeth i gynnig MSc Rheoli Peirianneg (MSc) newydd, sydd wedi ei dylunio i ddatblygu arweinwyr dylanwadol sy'n gallu ysgogi newid cynaliadwy.

Wrth i'r galw am beirianwyr sydd nid yn unig yn dechnegol hyfedr ond sydd hefyd yn meddu ar sgiliau rheoli ac arwain cynyddu, mae'r rhaglen hon ar fin pontio'r bwlch.

Nod yr MSc yw rhoi'r gallu i fyfyrwyr fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn a materion byd-eang wrth ymgorffori nodau datblygu cynaliadwy yn eu harferion proffesiynol.

Mae'r MSc hwn wedi'i greu ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno gwella eu harbenigedd technegol wrth fireinio eu sgiliau rheoli ac arwain. Mae’n ddelfrydol ar gyfer unigolion â chefndir peirianneg sy’n awyddus i gamu i rolau sy’n gofyn am arloesi a gwneud penderfyniadau effeithiol mewn sefyllfaoedd cymhleth, go iawn.
Dr Xiao Jason GUO Arweinydd Rhaglen, Yr Ysgol Peirianneg

Mae'r MSc mewn Rheolaeth Peirianneg yn cyfuno addysg dechnegol â chymhwyso technegau rheoli allweddol.

Bydd myfyrwyr nid yn unig yn dysgu rheoli prosiectau a thimau peirianneg ond hefyd yn mynd i'r afael â heriau byd-eang pwysig, megis newid yn yr hinsawdd, rheoli adnoddau, a datblygu technoleg gynaliadwy.

Bydd myfyrwyr yn y rhaglen MSc hon yn datblygu’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i fynd i’r afael â’r heriau mawr a wynebir ym maes peirianneg heddiw. Gallai hyn fod o reoli prosiectau sy’n darparu gwytnwch i gymunedau sy’n wynebu effaith newid yn yr hinsawdd i welliannau i brosesau sy’n croesawu’r arloesiadau technolegol diweddaraf.
Yr Athro Andrew Potter Arweinydd y Rhaglen, Ysgol Busnes Caerdydd

Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglen yn cael mynediad i gyfleusterau ymchwil uwch, yn cymryd rhan mewn profiadau dysgu ymarferol, ac yn gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr o feysydd peirianneg a busnes.

Gall graddedigion ddilyn gyrfaoedd mewn ymchwil peirianneg, yn ogystal â sefydliadau diwydiannol, masnachol a llywodraethol a rolau mewn sefydliadau cyhoeddus a phreifat.

I wneud cais am Reoli Peirianneg (MSc), dylai fod gan ddarpar fyfyrwyr radd mewn pwnc peirianneg perthnasol neu radd ryngwladol gyfatebol.

Dysgwch ragor am Reoli Peirianneg (MSc).

Rhannu’r stori hon