Samplau cynhesach ar gyfer byd oerach
4 Chwefror 2025

Trwy storio samplau dŵr gwastraff ar dymheredd uwch, gall labordai leihau'n sylweddol faint o ynni y maen nhw’n ei ddefnyddio, a thrwy hynny leihau eu hallyriadau carbon, heb effeithio cywirdeb samplau yn sylweddol.
Mewn llawer o sefyllfaoedd, mae angen storio samplau a gymerir ar gyfer dadansoddi cemegol a biolegol cyn y gellir eu prosesu. Gall y samplau hyn amrywio o feinwe, ysgarthion, pridd a hyd yn oed carthffosiaeth. Yn achos banciau bio hirdymor, gellir storio samplau am oriau, neu hyd yn oed flynyddoedd, gan ein galluogi i ymchwilio’r gorffennol; ond os na chaiff samplau eu storio'n gywir, gall hyn ddod yn anodd iawn i'w wneud.
Mae yna amryw o opsiynau o ran storio samplau gan gynnwys eu storio ar tymheredd ystafell, oeri a rhewi, gyda storio ar -80°C yn aml yn cael ei ystyried yr opsiwn gorau. Fodd bynnag, mae angen llawer iawn o egni ar y rhewgelloedd tymheredd isel iawn a ddefnyddir i gyrraedd y tymereddau hyn.
Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Journal of Virological Methods, cafodd technegau storio samplau carthion eu hymchwilio, at ddibenion monitro dŵr gwastraff. Gall monitro dŵr gwastraff roi gwybodaeth i chi am gymuned sy'n cynhyrchu'r dŵr gwastraff hwnnw, gan gynnwys nifer yr achosion o glefydau heintus, a elwir yn epidemioleg dŵr gwastraff (WBE), gan gyfrannu felly at barodrwydd ar gyfer pandemig.
Cymharwyd mesuriadau o samplau a storiwyd am hyd at flwyddyn ar 4°C, -20°C a -80°C. Roedd y mesuriadau hyn yn cynnwys marcwyr cemegol pwysig megis pH, dargludedd, amonia, orthoffosffad a chymylogrwydd, yn ogystal â marcwyr biolegol sy'n targedu'r firws RNA (SARS-CoV-2) sy'n achosi COVID-19, a firws ysgarthol DNA sy'n digwydd yn naturiol.
Er syndod, yn y rhan fwyaf o achosion, canfuwyd bod storio samplau hirdymor ar -80°C yn ddiangen, gyda samplau wedi’u rhewi mewn rhewgell safonol -20°C yn aros yr un mor sefydlog. Roedd yr holl farcwyr cemegol hefyd yn sefydlog ar ôl blwyddyn o gael eu hoeri (4°C), cyn belled â'u bod yn cael eu cadw mewn tiwbiau llai. Dangosodd y firws RNA duedd debyg, gyda samplau wedi'u storio ar 4°C am hyd at saith mis yn dangos cyfradd ganfod well nag mewn samplau a gafodd eu rhewi. Mae hyn oherwydd bod crisialau iâ sy’n ffurfio yn niweidio'r RNA cyn gynted ag y bydd sampl yn cael ei rewi.

I was pleasantly surprised that storing wastewater samples long-term at -20°C instead of at -80°C, as I usually do, did not decrease the integrity of the sample. This means that this will decrease my reliance on -80°C freezers and cut down laboratory energy costs, as well as remove the pressure of trying to find enough space in those freezers.
Yn ogystal, ni chafodd tynnu samplau i mewn ac allan o'r rhewgell sawl gwaith yn ystod y flwyddyn effaith fawr ar lawer o'r marcwyr, ac eithrio cymylogrwydd. Mae hyn yn cynnig hyblygrwydd wrth weithio gyda samplau mewn banciau bio. Mae gallu dadansoddi samplau mewn banciau bio mewn ffordd effeithiol yn werthfawr, yn enwedig yng nghyd-destun epidemioleg dŵr gwastraff, gan y gall roi gwybodaeth hanesyddol am gamau cynnar clefydau sy'n dod i'r amlwg.

Given the urgent need for emissions reduction to mitigate climate change, as well as the cost of energy, insights like these can reassure researchers that keeping samples at higher temperatures, and doing their bit for the environment, will not compromise their results.
Cyhoeddir y papur, 'Storio sampl dŵr gwastraff ar gyfer dadansoddi ffisigocemegol a microbiolegol', yn y Journal of Virological Methods.