Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr graddedig ysbrydoledig o Ysgol Busnes Caerdydd yn ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn AMBA

4 Chwefror 2025

Wael Abdin
Wael Abdin

Mae Wael Abdin wedi ennill gwobr fawreddog Myfyriwr y Flwyddyn AMBA 2025.

Cynhaliwyd Gwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas MBA (AMBA) a Chymdeithas y Graddedigion Busnes (BGA) 2025 yn Llundain ar 24 Ionawr. Daeth y gwobrau â sêr blaenllaw’r gymuned addysg busnes fyd-eang at ei gilydd i ddathlu rhagoriaeth a rhoi clod i gyflawniadau ymhlith ysgolion busnes, myfyrwyr a graddedigion MBA, cyflenwyr a chyflogwyr.

Mae'r gwobrau'n chwarae rhan ganolog wrth gefnogi addewid AMBA i gefnogi statws gradd MBA yn gymhwyster busnes rhyngwladol blaenllaw.

Mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn AMBA yn cydnabod myfyrwyr sydd wedi dangos potensial gyrfaol arbennig, ac mae’r AMBA yn credu eu bod yn gallu gweithredu fel llysgenhadon ar gyfer rhaglenni MBA achrededig a’r cyfleoedd y mae’r rhaglenni’n eu rhoi i fyfyrwyr.

Wael Abdin yw myfyriwr MBA dall cyntaf Ysgol Busnes Caerdydd, ac mae ei gyfranogiad wedi bod o fudd sylweddol i'r rhaglen. Dywedodd arweinwyr ei fodiwlau:

"Fe wnaeth Wael wella fy null cyflwyno a chynnwys fy narlithoedd yn sylweddol. Rhoddodd hwb i fi chwilio am ddulliau arloesol o gysylltu â myfyrwyr a bod yn fwy cynhwysol".

"Mae’n fyfyriwr talentog a brwdfrydig iawn. Fe wnaeth ei safbwyntiau ar Sudan gyfoethogi trafodaethau’r dosbarth, yn enwedig wrth sôn am ddiwylliant busnes rhyngwladol".

"Mae Wael wedi dangos natur benderfynol, a gwytnwch digamsyniol, yn ogystal ag ymrwymo’n gyson ac mewn modd eithriadol i ragori’n academaidd. Rhai o nodweddion ei ddull o ddysgu yw’r ffaith ei fod yn paratoi’n fanwl, yn datrys problemau’n arloesol, a gallu rhyfeddol i ymwneud â deunydd cymhleth mewn ffyrdd unigryw a chraff."

Wrth gyfeirio at ei fuddugoliaeth, meddai Wael:

"Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd mawr a hoffwn i ddiolch o waelod calon i fy nheulu ac i Ysgol Busnes Caerdydd am eu cefnogaeth ddigamsyniol. Fel person dall, mae’r gydnabyddiaeth hon yn gyflawniad personol, ond mae hefyd yn dyst i wytnwch a natur benderfynol pobl Sudan. Er gwaethaf yr heriau sy'n deillio o fod yn ddall, rwy wedi gallu sefydlu fy ymarfer cyfreithiol, cael cydnabyddiaeth yn Chambers and Partners, ac arwain plaid wleidyddol draws-bleidgar newydd yn Sudan.

Mae fy mhrofiad yn dyst i'r ffaith y gallwn ni oresgyn unrhyw rwystrau gyda dyfalbarhad a chefnogaeth y rheini sy’n annwyl inni. Yn ogystal, bwriad fy ymdrechion i lansio platfform cyfreithiol digidol yw gwneud gwasanaethau cyfreithiol yn fwy hygyrch a fforddiadwy i bawb. Mae'r wobr hon yn ein hatgoffa y gallwn ni gyflawni pethau gwych gydag ymroddiad a dyfalbarhad."

"Llongyfarchiadau i Wael ar y cyflawniad rhyfeddol hwn. Mae ennill y wobr fawreddog hon yn dyst i dy waith caled, dy ymroddiad, a'r dylanwad parhaol rwyt ti wedi'i gael ar Ysgol Busnes Caerdydd. Rwyt ti’n ysbrydoliaeth i fyfyrwyr MBA presennol yn ogystal â rhai’r dyfodol, ac allen ni ddim bod yn fwy balch o dy lwyddiant." Yr Athro Tim Edwards

Meddai Andrew Main Wilson, Prif Weithredwr Cymdeithas MBA a Chymdeithas y Graddedigion Busnes: "Ar ran tîm AMBA a BGA, hoffwn longyfarch y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ac enillwyr Gwobrau Rhagoriaeth eleni. Eleni, roedd y gystadleuaeth yn gryfach nag erioed - gyda'r nifer uchaf o geisiadau erioed. Dylai'r ceisiadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol ym mhob categori fod yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni."

Rhannu’r stori hon