Mewnwelediadau newydd i Myrddin
3 Chwefror 2025
![Baner wen, coch, a du gyda sgrîn deledu yn y cefndir.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2895281/Cynhadledd-Myrddin-edited.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae rhai o gerddi Myrddin wedi cael eu trafod am y tro cyntaf erioed mewn cynhadledd ddiweddar yng Nghaerdydd.
Cafodd Cynhadledd Myrddin ei chynnal rhwng 25 a 26 Ionawr 2025 yn adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd, gyda dros 50 o bobl yn mynychu’r gynhadledd.
Pwrpas y gynhadledd ryngwladol oedd cyflwyno golygiad newydd o farddoniaeth Gymraeg yn llais Myrddin sy’n cael eu cadw mewn llawysgrifau rhwng y 13eg a’r 18fed ganrif, gyda siaradwyr o bob cwr o’r byd yn teithio i’r brifddinas i drafod eu gwaith.
Ymysg y rhai oedd yn cyflwyno’u gwaith oedd ymchwilwyr y prosiect sef Dr Ben Guy o Brifysgol Caergrawnt, Dr Jenny Day o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a Dr Llewelyn Hopwood o Ysgol y Gymraeg. Soniodd Dr Guy a Dr Hopwood am rannau o gerddi cynnar y corpws nad oedd yn llwyr hysbys cyn cychwyn y prosiect, tra bod Dr Day wedi cyflwyno rhai o gerddi Myrddinaidd oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid am y tro cyntaf erioed.
Dywedodd Dr Hopwood: “Blas oedd y penwythnos hwn ar y fath o ymchwil cyffrous a fydd yn deillio o’r golygiadau newydd a’r bwrlwm y bydd yn ei ysgogi ym maes astudiaethau Myrddin gan ail-leoli, neu gyflwyno am y tro cyntaf, barddoniaeth Gymraeg y ffigur amlhaenog hwn.”
![Mae 5 dyn a 2 fenyw yn sefyll mewn llinell ac yn gwenu ar y camera.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/2895330/Y-tim-edited.jpg?w=575&ar=16:9)
Cafodd mynychwyr y gynhadledd gyfle hefyd i glywed gan 2 academydd arall o Ysgol y Gymraeg sy’n rhan o Brosiect Myrddin sef Dr David Callander ac arweinydd y prosiect, Dr Dylan Foster Evans. Soniodd Dr Foster Evans am hanes bywyd ysgolhaig disglair a gollwyd yn ifanc, Margaret Enid Griffiths, tra soniodd Dr Callander am sut mae’r golygiad newydd o ‘Cyfoesi Myrddin a Gwenddydd ei Chwaer’ wedi newid ein dealltwriaeth o’r gerdd enwog a helaeth gan ystyried arwyddocâd deialog y 2 gymeriad a’i berthynas â thema ‘diwedd ein hoes’.
![Mae dyn sy'n gwisgo sbectol yn sefyll y tu ôl i ddarllenfa ac yn siarad â chynulleidfa.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=575&ar=16:9)
Wrth siarad am y gynhadledd, dywedodd Dr Callander: “Braint arbennig oedd cael cyfarfod a gwrando ar gymaint o ysgolheigion amryddawn o gymaint o wahanol sefydliadau. Mae safon y papurau wedi bod yn arbennig ac mae'r gynhadledd wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth astudio traddodiadau Cymraeg Myrddin.”
Cafwyd 2 ddarlith gyweirnod yn ystod y gynhadledd, y cyntaf gan Dr Victoria Flood o Brifysgol Birmingham a roddodd drefn gelfydd ar rwydwaith ddyrys y proffwydoliaethau a ymddangosodd yn y Saesneg a’r Gymraeg yn y 15fed ganrif a’r ail gan Dr Juliette Wood o Brifysgol Caerdydd a amlinellodd y traddodiad Myrddinaidd yn ei chyfanrwydd: o’r bachgen ifanc heb dad i’r dyn gwyllt o’r coed, o’r dewin i’r dramâu, o’r llawysgrifau i’r ffilmiau ffantasi.
Mae'r gynhadledd yn nodi penllanw Prosiect Myrddin, un o brosiectau mwyaf a phwysicaf Ysgol y Gymraeg. Prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, a Phrifysgol Abertawe yw’r prosiect sydd wedi bod ar waith ers 2022.
Dywedodd Dr Callander: “Bydd hi'n ddiwrnod trist pan ddaw'r prosiect i ben, gan fy mod wedi mwynhau gymaint gyd-weithio ag ysgolheigion disglair ar ddeunydd mor ddiddorol, ond gallwn fod yn falch iawn o'r hyn yr ydym wedi ei gyflawni. Mae'r prosiect wedi creu golygiadau safonol o gymaint o gerddi Myrddinaidd, gan gynnwys cerddi cynnar heriol a cherddi diweddarach sy'n tystio i ddatblygiad traddodiadau Myrddinaidd.”
Yn dilyn y gynhadledd, bydd detholiad o'r papurau’n cael eu cyhoeddi fel llyfr academaidd awdurdodol. Yn ogystal, bydd digwyddiad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar 15 Chwefror 2025 yn Aberystwyth lle bydd gwefan sy’n cynnwys y cerddi a gwybodaeth amdanynt yn cael ei lansio.