Ewch i’r prif gynnwys

Bydd prosiect FASTER yn datblygu storfa gynaliadwy ar gyfer amonia gwyrdd

30 Ionawr 2025

Mae prosiect i ddatblygu dull arloesol a chynaliadwy o storio ynni gwyrdd i greu dyfodol glanach a chryfhau diogelwch ynni Ewrop wedi dechrau.

Mae ymchwilwyr o Sefydliad Arloesi Sero Net y Brifysgol yn rhan o FASTER (Technoleg Synthesis Amonia Hyblyg er Storio Ynni), sef prosiect ar y cyd rhwng prifysgolion a chwmnïau Ewropeaidd blaenllaw a lansiwyd y mis hwn.

Diben FASTER yw troi ynni solar a gwynt yn amonia, sy'n hawdd ei storio a'i gludo ac sydd â seilwaith sefydledig oherwydd y defnydd ohono ym myd amaethyddiaeth. Mae ganddo botensial enfawr hefyd i leihau allyriadau carbon a chreu ynni sy’n effeithlon ac yn lanach. Mae hyn yn hanfodol i fynd i'r afael ag amrywiadau tymhorol wrth gynhyrchu a defnyddio ynni.

Mae cyllid a gwaith ar y cyd yn hanfodol i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd. Maen nhw’n dod ag arbenigedd ac adnoddau ynghyd i hyrwyddo arloesedd wrth ddefnyddio amonia’n ffynhonnell ynni glân ar gyfer dyfodol gwyrddach, mwy gwydn.

Dr Alberto Roldan Martinez Research Fellow

Mae amonia hylifol yn cynnig manteision unigryw o fod yn gludwr ynni. Mae ganddo ddwysedd ynni llawer uwch na hydrogen hylifedig ac mae'n haws ac yn fwy cost-effeithiol i'w gludo. Ar ben hynny, mae amonia eisoes yn cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio'n eang heddiw, yn niwydiant gwrtaith yn benodol. Mae hyn yn golygu bod protocolau sefydledig ar gael i'w drin a'i storio'n ddiogel. Diolch i'r seilwaith cyfredol hwn, gall FASTER gyflymu'r broses o newid i amonia gwyrdd heb ychwanegu pryderon diogelwch neu amgylcheddol sylweddol.

Yn ogystal â storio ynni, mae'r dechnoleg hefyd yn cyfrannu at wneud cynhyrchu gwrtaith yn fwy cynaliadwy, sef sector sy'n dibynnu'n drwm ar danwydd ffosil ar hyn o bryd. Mae hyn yn helpu i leihau allyriadau CO₂, ond ar ben hynny mae’n lleihau dibyniaeth Ewrop ar fewnforio nwy naturiol.

Mae'r prosiect yn cynnwys wyth partner o bum gwlad, gan gynnwys yr Iseldiroedd, yr Almaen, y Swistir, yr Eidal a'r Deyrnas Unedig. Mae’n dod ag arbenigwyr byd catalysis o Brifysgol Caerdydd ynghyd ag arbenigwyr rhyngwladol ym maes technoleg ynni gwyrdd.