Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn galw am weithredu brys i atal colli amrywiaeth genetig

30 Ionawr 2025

Stock image of birds in sky

Mae colli amrywiaeth genetig yn digwydd ar draws y byd ac mae angen gweithredu ar frys yn ôl yr ymchwiliad mwyaf hyd yma i fioamrywiaeth.

Mae astudiaeth gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a thîm rhyngwladol mawr wedi edrych ar golled mewn amrywiaeth genetig mewn 628 o rywogaethau (anifeiliaid, planhigion, ffyngau a chromyddion), gan ymdrin â holl amgylcheddau daearol a morol y Ddaear mewn 141 o wledydd.

Roedd y dadansoddiad yn ymchwilio i’r modd y mae amrywiaeth genetig wedi newid dros amser, yn seiliedig ar yr holl astudiaethau sydd ar gael sydd wedi adrodd am fesurau hanesyddol, dros fwy na thri degawd o ymchwil.

Mae’r cwymp mewn bioamrywiaeth yn parhau ledled y byd ar gyfradd na welwyd ei thebyg o’r blaen. Mae cynnal amrywiaeth genetig yn hollbwysig yn y gwaith o ddiogelu bioamrywiaeth rhag newidiadau amgylcheddol yn y dyfodol. Mae atal y cwymp mewn amrywiaeth genetig yn her fawr o ran bioamrywiaeth fyd-eang. Darganfuwyd bod colli amrywiaeth genetig yn digwydd ar draws y byd. Mae ein canfyddiadau’n dangos bod angen dybryd am ymyriadau cadwraeth sylweddol, ar sail geneteg, i atal colli amrywiaeth genetig.
Dr Pablo Orozco-terWengel Lecturer

Dangosodd y data bod cwymp wedi bod mewn amrywiaeth genetig yn y rhan fwyaf o amgylcheddau daearol, tra bod canlyniadau mewn amgylcheddau morol yn fwy amrywiol.

Mae'r ymchwil newydd hwn yn dangos ei bod yn debygol y bydd cwymp pellach mewn amrywiaeth genetig os na chymerir camau brys. Mae hefyd yn dangos y gall setiau data cyfredol ar golli amrywiaeth genetig helpu i dargedu camau gweithredu mewn cadwraeth bioamrywiaeth yn effeithiol.

Mae colli amrywiaeth genetig yn codi pryderon ynghylch gwytnwch poblogaethau o rywogaethau ledled y byd, ac yn dangos bod bygythiad i ecosystemau ym mhob rhan o’r byd. Dylai’r pryderon cynyddol hyn am amrywiaeth genetig rhywogaethau sbarduno camau rheoli cadwraeth mwy sylweddol i atal erydu genetig, cyn y bydd colledion pellach yn digwydd. Mae’r astudiaeth yn dangos bod amrywiaeth genetig yn cael ei golli dros gyfnodau lle mae bodau dynol wedi bod yn bresennol, ac mae angen i ni weithredu nawr i liniaru rhag unrhyw golled pellach.
Dr Isa-Rita Russo Research Associate

Dywedodd yr Athro Catherine Grueber, Prifysgol Sydney: “Ni fyddai wedi bod yn bosibl cynnal y math hwn o astudiaeth fyd-eang gynhwysfawr hyd yn oed 10 mlynedd yn ôl. Mae datblygiadau mewn geneteg ac ystadegau wedi rhoi offer newydd i ni sy’n golygu y gallwn ni barhau i ddysgu o astudiaethau ymhell ar ôl iddyn nhw gael eu cynnal – budd enfawr pan fyddwn ni’n edrych ar boblogaethau a thueddiadau ar raddfa fyd-eang.”

Mae ein canfyddiadau hefyd yn cynnig llwybr i weld sut y gellir mynd i’r afael a’r golled hon mewn bioamrywiaeth ledled y byd. Mae ein hastudiaeth yn nodi pedwar math o gamau cadwraeth sy'n cynnig y siawns orau o lwyddo. Mae strategaethau wedi’u cynllunio i wella amodau amgylcheddol, i gynyddu twf poblogaethau, yn ogystal ag adfer cysylltedd ymhlith poblogaethau, neu drawsleoli unigolion, fyddai’n gallu cynnal neu hyd yn oed gynyddu amrywiaeth genetig.
Dr Frank Hailer Uwch-ddarlithydd

Mae’r papur hwn, Global meta-analysis shows action is needed to halt genetic diversity loss, wedi’i gyhoeddi yn Nature, ac fe’i cyd-awdurwyd gan y diweddar Athro Mike Bruford, a roddodd ei yrfa i ddeall ac atal colli bioamrywiaeth. Cynhaliwyd y gwaith ymchwil gan dîm mawr, rhyngwladol o ymchwilwyr, ac fe’i gydlynwyd gan yr Athro Catherine Gruber o Brifysgol Sydney. Y prif awduron yw Dr Robyn Shaw a Dr Katherine Farquharson o Brifysgol Sydney.