Ewch i’r prif gynnwys

Diogelu ein Dyfodol Academaidd

28 Ionawr 2025

Y Prif Adeilad

Bydd Prifysgol Caerdydd yn lansio ymgynghoriad ffurfiol ar newidiadau arfaethedig gyda’r bwriad o wireddu ei hamcanion a diogelu dyfodol hirdymor y Brifysgol.

Mae’r ymgynghoriad, fydd yn para am 90 diwrnod, yn cynnwys gostyngiad arfaethedig o 400 yn nifer y staff academaidd (cyfwerth ag amser llawn), y posibilrwydd o gau Ysgolion a therfynu pynciau, yn ogystal ag uno Ysgolion.

Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner: “Mae’n amlwg bod nifer o brifysgolion yn wynebu sefyllfa ariannol ansicr, yn enwedig o ystyried bod ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol yn gostwng a bod pwysau cynyddol o ran costau, sy’n golygu bod gofyn addasu er mwyn goroesi.

“Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn gwybod nad yw hi bellach yn bosibl inni barhau fel yr ydyn ni. Mae ein strategaeth newydd, sydd wedi’i greu ar y cyd â’n cymuned, yn gosod dyfodol uchelgeisiol i’n Prifysgol sy’n gydweithredol, yn arloesol ac yn cynnig gwerth i Gaerdydd, i Gymru a’r byd yn ehangach.

“Mae diogelu’r dyfodol hwnnw, mewn cyd-destun o gwtogi ariannol, yn golygu bod angen inni wneud penderfyniadau anodd i wireddu ein hamcanion o fireinio ein haddysg a’n hymchwil, yn ogystal â gwella profiad staff a myfyrwyr.

“Rydym wedi gweithio’n ddiwyd i greu cynigion cychwynnol am Brifysgol sydd ychydig yn llai, sy’n canolbwyntio o’r newydd ar ein cryfderau craidd a’r rheini sy’n dod i’r amlwg; Prifysgol sy’n barod i wneud y gorau o gyfleoedd academaidd newydd, i baratoi myfyrwyr am fyd sy’n newid, a chwrdd â gofynion newidiol y farchnad wrth iddynt godi.

“Wrth inni gyflwyno’r cynigion hyn i ail-lunio ein gweithgarwch presennol, byddwn yn gweithio ar fodel newydd ar gyfer dysgu gydol oes hyblyg, cyfleoedd newydd mewn addysg drawswladol, a dulliau newydd o ddysgu ac addysgu.

“Nod ein cynigion yw creu amgylchedd ymchwil o safon uwch sydd â mwy o ffocws, ac sydd o ansawdd uwch i staff a myfyrwyr. Bydd yr amgylchedd hwn yn un o safon fyd-eang, gyda gwerthoedd cynefin, gwreiddiau a chyd-greu yn ganolog iddo.

“Rydym hefyd am sicrhau ein bod yn cynnig profiad addysgol sy’n gyson ragorol i fyfyrwyr o bob cefndir a phrofiad.

“Rwyf am bwysleisio mai cynigion yw’r rhain ac y bydd ein cymuned – yn fewnol ac yn allanol – yn cael llywio ein cynlluniau terfynol drwy ymgynghoriad ffurfiol. Bydd maint yr her yn parhau, ond bydd y ffordd yr awn i’r afael â hi yn sicr yn cael ei mireinio a’i datblygu dros y 90 diwrnod nesaf.” ​

Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys y canlynol:

  • gostyngiad o oddeutu 400 cyfwerth ag amser llawn (7% o gyfanswm y gweithlu) yn nifer y staff academaidd, gan ddiswyddo’n orfodol dim ond os yw’n gwbl angenrheidiol gwneud hynny
  • terfynu pynciau a rhaglenni mewn Hanes yr Henfyd, Ieithoedd Modern a Chyfieithu, Cerddoriaeth, Nyrsio, a Chrefydd a Diwinyddiaeth
  • cynyddu cymarebau myfyrwyr a staff ledled y Brifysgol, wrth adolygu ein hagweddau at ddysgu, addysgu ac asesu, a symleiddio prosesau biwrocrataidd
  • dod â disgyblaethau tebyg at ei gilydd drwy gynnig uno ysgolion. Creu Ysgol y Gwyddorau Naturiol (uno Cemeg, Gwyddorau’r Ddaear a Ffiseg), Ysgol Gwyddor Data, Cyfrifiadura a Mathemateg (uno Cyfrifiadureg a Mathemateg), Ysgol y Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol (uno’r Gwyddorau Cymdeithasol, Daearyddiaeth a Chynllunio) ac Ysgol y Dyniaethau Byd-eang (uno Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, y Gymraeg a’r elfennau sy’n weddill o Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ac Ieithoedd Modern).

Meddai’r Athro Larner: “Rwy’n gwybod bod y cynigion hyn yn effeithio ar rai aelodau o staff yn fwy nag eraill, a byddant yn achosi ansicrwydd a phryder sylweddol i’r rhai yr effeithir arnynt o bosib.

“Rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi cyrraedd y sefyllfa hon, ond yn y pen draw, rydym yn gwybod bod rowndiau blynyddol o doriadau yn digalonni ein staff, yn effeithio ar ein myfyrwyr, ac yn cyfyngu ar ein gallu i gadw a thyfu partneriaethau newydd gyda’n cymuned yma yn y DU ac mewn mannau eraill. Mae angen inni weithredu nawr i sicrhau ein bod yn gallu gwireddu’r dyheadau a geir ein strategaeth newydd a chael prifysgol sy’n ymarferol at y dyfodol.

Nod y cynigion hyn, a arweinir yn academaidd, yw gwrthdroi’r tuedd o weithio ar ddiffyg, a chreu lle i sefydlu gweithgareddau newydd fydd yn cynhyrchu refeniw,” ychwanegodd.

Mae proses gysylltiedig i ail-lunio’r gwasanaethau proffesiynol a chymorth i gefnogi ein dyheadau academaidd eisoes wedi dechrau.

Cynhaliwyd sesiynau briffio i staff ddydd Mawrth 28 Ionawr a byddant yn parhau trwy gydol yr wythnos. Bydd achosion busnes pob Ysgol ar gael ar fewnrwyd staff y Brifysgol. Bydd myfyrwyr presennol a rhanddeiliaid allanol allweddol eraill hefyd yn cael gwybod am y cynigion.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am dri mis a disgwylir i’r cynlluniau terfynol i'w cymeradwyo gael eu hystyried gan Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin 2025.

Rhannu’r stori hon