Ewch i’r prif gynnwys

Llunio'r dyfodol gyda chwrs Systemau Roboteg a Deallus (MSc) newydd

27 Ionawr 2025

Mae Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd wedi lansio cwrs Systemau Roboteg a Deallus (MSc) newydd , wedi’i gynllunio i roi'r sgiliau i'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr lunio dyfodol technoleg.

Mae'r rhaglen yn cynnig sylfaen gynhwysfawr mewn roboteg a systemau awtonomaidd, gyda ffocws cryf ar eu defnydd ymarferol ym maes dylunio mecatroneg.

Eglura Dr Ze Ji, Arweinydd y Rhaglen MSc, “Mae’r MSc hwn yn hollbwysig oherwydd ei fod yn pontio’r bwlch rhwng gwybodaeth ddamcaniaethol flaengar a sgiliau ymarferol."

Rydyn ni’n paratoi myfyrwyr i ddatrys problemau yn y byd go iawn trwy ddefnyddio technegau roboteg a deallusrwydd artiffisial uwch i fynd i’r afael â heriau yn y diwydiant.
Dr Ze Ji Arweinydd y Rhaglen MSc

Bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol yn y labordy Systemau Awtonomaidd a Roboteg sydd newydd ei adeiladu, gan ddefnyddio’r hyn y maen nhw wedi ei ddysgu ym mhrosiectau ymchwil a diwydiant. O'r cychwyn cyntaf, byddan nhw’n datblygu dealltwriaeth fanwl o'r egwyddorion gwyddoniaeth a pheirianneg sy'n sail i roboteg.

Gyda chyfuniad o wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol mewn peirianneg roboteg a deallusrwydd artiffisial, bydd myfyrwyr yn cael yr adnoddau i ddatrys problemau cymhleth yn y byd go iawn.

Bydd ystod o fodiwlau dewisol mewn disgyblaethau peirianneg amrywiol yn galluogi myfyrwyr i roi elfen bersonol ar eu dysgu a datblygu sgiliau i gyd-fynd â’u diddordebau a’u nodau gyrfaol.

"Pam ddylai myfyrwyr wneud cais?" Dyma'r cwestiwn y mae Dr Aled Davies, Cyfarwyddwr Addysgu Ôl-raddedig yn ei ateb.

Mae’r MSc hwn yn gyfle i fod ar flaen y gad yn un o’r meysydd mwyaf deinamig ym maes peirianneg. Nid yw ond yn ymwneud â dysgu; mae'n ymwneud â chreu technoleg y dyfodol.
Dr Aled Davies Cyfarwyddwr Addysgu Ôl-raddedig

Mae croeso i fyfyrwyr sydd â gradd israddedig mewn mecatroneg, peirianneg fecanyddol neu electroneg wneud cais am yr MSc newydd hwn. Byddai rhywfaint o brofiad gydag iaith raglennu (ee C/C++, Python, Matlab) o fantais.

Rhagor o wybodaeth am y cwrs Roboteg a Systemau Deallus (MSc).

Rhannu’r stori hon