Ewch i’r prif gynnwys

Buddsoddiad sylweddol gwerth miliynau o bunnoedd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol y Brifysgol

27 Ionawr 2025

Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd i iechyd menywod, iechyd meddwl a chanser ymhlith y prif feysydd ymchwil a fydd yn rhannu cyllid gwerth £39.5 miliwn gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi cyllid Seilwaith Datblygu Ymchwil ar gyfer 17 o ganolfannau ymchwil ledled Cymru, gan gynnwys pum sefydliad newydd. Prifysgol Caerdydd fydd cartref Uned Feiroleg Gymhwysol Cymru, y Ganolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial, Ymchwil Iechyd Menywod Cymru a’r Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg. Prifysgol Abertawe fydd cartref y Ganolfan Genedlaethol er Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio.

Mae'r buddsoddiad yn cynnwys cyllid ar gyfer canolfannau blaenllaw fel Canolfan Ymchwil Canser Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, a Partneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant, a bydd yn hybu gallu academaidd a faint o ymchwil o ansawdd uchel sy'n digwydd yng Nghymru.

Mae'r cyllid wedi'i ddyfarnu ar draws dau gategori - gwobrau cynaliadwyedd, ar gyfer grwpiau a ariennir ar hyn o bryd er mwyn cynnal modelau ymarfer effeithiol a chefnogi llwybr tuag at hunan-gynaliadwyedd, a dyfarniadau catalytig er mwyn hybu capasiti a gallu mewn meysydd o angen iechyd a gofal a chryfder ymchwil newydd Cymru sy'n dod i'r amlwg.

Mae gan ymchwil rôl hanfodol i'w chwarae wrth ein helpu i gyflawni ein nod o Gymru Iachach. Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig mewn meysydd ymchwil newydd a chyffrous, gan gynnwys iechyd menywod; atal hunanladdiad a hunan-niweidio a DA - rwy'n gobeithio y bydd yn darparu tystiolaeth go iawn dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn helpu i lunio gwasanaethau a gofalu am bobl ledled Cymru.
Jeremy Miles MS Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Y canolfannau ym Mhrifysgol Caerdydd a fydd yn cael cyllid yw:

Cyllid Cynaliadwyedd

Cyllid Catalytig

  • Uned Firoleg Gymhwysol Cymru (£3,000,000)
  • Canolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (£1,815,416)
  • Ymchwil Iechyd Menywod Cymru (£3,013,936)
  • Canolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg (£1,746,729)

Y rhai y tu allan i Brifysgol Caerdydd yw:

Cyllid Cynaliadwyedd

Cyllid Catalytig

  • Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed (£2,085,939)

Dywedodd Michael Bowdery, Cyd-gyfarwyddwr Dros Dro yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phennaeth Isadran Rhaglenni, Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru:  "Mae'r cyhoeddiad hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith a ariennir yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac mae'n adlewyrchu ein huchelgais i ddatblygu gallu ymchwil sy'n cyd-fynd ag angen iechyd a chymdeithasol sydd heb ei ddiwallu mewn meysydd polisi allweddol.

"Mae ein dull o ddarparu'r cyllid hwn yn seiliedig ar ddau faen prawf - yn gyntaf, lle mae angen ymchwil a thystiolaeth glir a chymhellol yn y maes ar gyfer Llywodraeth Cymru, y GIG a'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru; ac yn ail, lle mae gallu a chapasiti ymchwil cryf neu sy'n dod i'r amlwg yn yr ardal.

"Mae'r canolfannau hyn yn ymgorffori'r egwyddor o ymchwil sydd â'r pŵer i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl, ac rydym yn falch o allu cefnogi eu gweithgarwch yn y maes hwn."

Dywedodd Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r buddsoddiad sylweddol hwn gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn nyfodol ein hymchwil sydd o safon fyd-eang. Mae’n tystio i waith rhagorol ein cymuned o ymchwilwyr yn y Brifysgol a photensial trawsnewidiol ein prosiectau."

Ar adeg heriol i’r sector addysg uwch, mae cymorth o’r fath yn bwysicach nag erioed er mwyn galluogi Cymru i hybu a pharhau i wneud ymchwil o safon fyd-eang sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Mae'r buddsoddiad hwn nid yn unig yn ein galluogi i barhau i wneud gwaith arloesol. Mae’n agor drysau i feysydd ymchwil newydd a hollbwysig a fydd yn cael effaith aruthrol ar bobl Cymru.
Yr Athro Roger Whitaker Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter