Ewch i’r prif gynnwys

Arian ar gyfer cyrsiau

22 Ionawr 2025

Lifelong Learning funding

Astudio drwy gynllun hepgor ffioedd myfyrwyr

Mae Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig ystod eang o gyrsiau rhan-amser i oedolion sy’n dysgu. Rydyn ni wedi cael cyllid gan Medr (Hefcw gynt) sy’n galluogi myfyrwyr i gael hepgor ffioedd myfyrwyr. Mae meini prawf ar gyfer bod yn gymwys i’w gweld ar ein gwefan.

Fe gewch chi groeso cynnes wrth gychwyn ar astudio yma. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr o bob oedran ac o bob cefndir mewn cyd-destun cyfeillgar a chefnogol.

Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gyrsiau i'ch helpu i wella'ch CV, cadw'ch meddwl yn egnïol ac ennill credydau tuag at gymhwyster.

Cynhelir y rhan fwyaf o gyrsiau unwaith yr wythnos dros gyfnod o ddeg wythnos. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyrsiau ar-lein. Mae dilyn cwrs am ddim yn ffordd berffaith o'ch ailgyflwyno i'r ystafell ddosbarth.

Gallai hwn fod yn gam cyntaf tuag at wireddu breuddwyd hir o ddychwelyd i astudio ac os ydych chi’n mwynhau’r profiad ac eisiau symud ymlaen, gallwch chi gofrestru ar un o’n Llwybrau at raddau israddedig.

Rhannu’r stori hon