Yr astudiaeth genom-gyfan fwyaf ar anhwylder deubegynol yn nodi 36 o enynnau sy'n gysylltiedig â'r anhwylder
23 Ionawr 2025
Mae astudiaeth a gynhaliwyd gan y Consortiwm Genomeg Seiciatrig wedi nodi 36 o enynnau sy'n gysylltiedig ag anhwylder deubegynol a allai helpu ymchwilwyr i ddatblygu cyffuriau newydd ar gyfer y cyflwr.
Dyma’r astudiaeth gysylltiad genom-gyfan (GWAS) ddiweddaraf ar anhwylder deubegynol sy’n cynnwys sawl canolfan ymchwil ledled y byd, gan gynnwys Canolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) Prifysgol Caerdydd.
Dyma hefyd yr astudiaeth genom-gyfan fwyaf ar anhwylder deubegynol hyd yma ac sydd wedi dadansoddi llinynnau DNA o fwy na 2.9 miliwn o gyfranogwyr, gyda dros 158,000 yn profi anhwylder deubegynol.
Roedd y papur, â’r teitl 'Genomics yields biological and phenotypic insights into bipolar disorder' yn defnyddio data o garfanau clinigol, cymunedol a hunan-gofnodedig o anhwylderau deubegynol ac mae iddo nifer o oblygiadau ar gyfer trin anhwylder deubegynol a chasglu data mewn astudiaethau ar anhwylder deubegynol yn y dyfodol.
Mae'r astudiaeth wedi nodi 298 rhanbarth yn y genom sy'n cynnwys amrywiadau genetig sy'n cynyddu'r risg o fod ag anhwylder deubegynol. Mae hynny bedair gwaith nifer y rhanbarthau a nodwyd mewn astudiaethau blaenorol. Arweiniodd croesgyfeirio ystod o ddulliau at nodi 36 gennyn y mae amheuaeth eu bod nhw’n berthnasol i anhwylder deubegynol.
Mae'r signalau genetig yn amlygu rôl mathau penodol o gelloedd yr ymennydd a rhanbarthau mewn anhwylder deubegynol, megis yr hipocampws a'r cortecs cyndalcennol, a all ein helpu i ddeall mwy am fioleg sylfaenol y cyflwr.
Oherwydd amrywiaeth ei data sampl, dyma hefyd yr astudiaeth gyntaf i nodi'r rhanbarthau hyn mewn sawl tras, gan gynnwys rhanbarth newydd sy'n gysylltiedig â risg uwch ar gyfer anhwylder deubegynol yn benodol ym mhoblogaeth Dwyrain Asia.
Awgrymodd y canfyddiadau hefyd bod angen i ymchwilwyr fod yn ymwybodol o ddulliau casglu data wrth ddadansoddi eu data. ychwanegodd yr Athro Di Florio: “Dysgon ni fod signalau genetig yn newid yn rhannol yn ôl y ffordd y cafodd cyfranogwyr eu recriwtio i fod yn rhan o’r astudiaethau. Er enghraifft, pe bydden nhw wedi cael eu recriwtio mewn clinigau, trwy arolygon ar-lein neu yn rhan o fanciau bio mawr.” Mae ymchwilwyr yn awgrymu y gallai hyn gael ei ysgogi gan wahaniaethau yn nghyffredinrwydd gwahanol is-deipiau anhwylder deubegynol yn y gwahanol fathau o samplau.
Hoffai’r Athro Di Florio a’r tîm ddiolch i’r holl gyfranogwyr am eu cyfraniadau at yr astudiaeth hon.
Mae modd darllen y papur â’r teitl, “Genomics yields biological and phenotypic insights into bipolar disorder,” yn Nature .
Mae gan y Consortiwm Genomeg Seiciatrig dros 1,700 o ymchwilwyr mewn dros 65 o wledydd. Dyma ragor o wybodaeth.