Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd

17 Ionawr 2025

Y Prif Adeilad o Rodfa'r Amgueddfa
Y Prif Adeilad o Rodfa'r Amgueddfa

Cydnabuwyd cyflawni eithriadol gan aelodau o gymuned y Brifysgol, gan gynnwys aelodau o’r staff, cyn-fyfyrwyr a chymrodyr anrhydeddus, yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin ar gyfer 2025.

Mae'r Athro Susan Wong yn yr Ysgol Meddygaeth bellach yn CBE am ei gwaith ar ddiabetes a metaboledd. Mae ei hymchwil wedi taflu goleuni ar pam mae pobl yn datblygu diabetes, gan weithio ar agweddau gwahanol ar y system imiwnedd, ac mae hi wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu astudiaethau cyn-glinigol a chlinigol o imiwnotherapi ar gyfer diabetes Math 1.  Yn ogystal ag ymchwil, mae ganddi brofiad helaeth mewn gofal clinigol i bobl sy'n byw gyda diabetes, addysg myfyrwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithio gyda'r elusennau diabetes.

Mae'r Athro Nicholas Jenkins yn yr Ysgol Peirianneg bellach yn OBE yn sgil ei wasanaethau i ynni adnewyddadwy ac i dechnolegau grid clyfar. Mae wedi ymgymryd ag addysgu ac ymchwil ym maes peirianneg pŵer trydanol ac ynni adnewyddadwy, ac roedd yn aelod o Banel Arbenigwyr Technegol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), gan roi cyngor i'r llywodraeth ar y Mecanwaith Capasiti.

Ar ben hynny, cydnabyddir cyn-fyfyrwyr gan gynnwys Ruth Marks sydd bellach yn CBE am ei gwasanaethau i'r sector gwirfoddol ac i bartneriaethau cymdeithasol yng Nghymru, a'r Athro Syr Leszek Borysiewicz a urddir yn GBE am ei wasanaethau i ymchwil ar ganser, ymchwil glinigol, meddygaeth ac elusennau.

Ymhlith y Cymrodyr Anrhydeddus i’w hurddo y mae Syr Stephen Fry sydd bellach yn Farchog Baglor am ei wasanaethau i ymwybyddiaeth iechyd meddwl, yr amgylchedd ac elusennau, ac urddir hefyd Syr Gerald Davies yn Farchog Baglor am ei wasanaethau i Rygbi’r Undeb ac i wasanaeth gwirfoddol ac elusennol yng Nghymru.

Rhannu’r stori hon