Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng Airbus a Phrifysgol Caerdydd yn cael ei graddio'n 'Rhagorol' ar gyfer Arloesedd ym maes Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Seiberddiogelwch.

10 Chwefror 2025

Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac Airbus, a wnaeth ddatblygu ffyrdd newydd o fesur cadernid penderfyniadau Deallusrwydd Artiffisial ar ganfod ymosodiadau seiber amser real, wedi’i graddio’n ‘rhagorol’ gan Innovate UK.

Mae'r prosiect sy'n canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial â’r cwmni technoleg byd-eang o fri, wedi cryfhau'r bartneriaeth strategol rhwng Airbus a'r Brifysgol ymhellach, wrth iddyn nhw fwrw ati i gydweithio ar ystod o weithgareddau arloesi ac ymchwil ym maes seiberddiogelwch.

Roedd y prosiect wedi cael cyllid drwy e-Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (eKTP) a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ac Innovate UK. Roedd hyn wedi galluogi Airbus i weithio'n agos gyda’r Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch (CCSR) yn Mhrifysgol Caerdydd, sef uned ymchwil academaidd flaenllaw yn y DU ar gyfer dadansoddeg seiberddiogelwch.

Ceisiodd yr eKTP ddatblygu'r dechnoleg Deallusrwydd Artiffisial gyntaf o’i math ar sail tystiolaeth, sy’n gadarn ac yn esboniadwy, i ganfod a rhagweld ymosodiadau seiber maleisus yn Airbus, gan atgyfnerthu eu galluoedd i ganfod ac i ymateb.

Matthew Hopkins, cydymaith ymchwil, a arweiniodd y prosiect, gan weithio yn Labordy Seiber Airbus yng Nghasnewydd, i ymgorffori’r wybodaeth a'r gallu newydd i’r gweithrediadau seiberddiogelwch rheng flaen yn Airbus sy'n diogelu 130,000 o weithwyr ledled Ewrop o’i ganolfan yn Toulouse.

Angela Smith, Pennaeth Arloesi ym maes Seiber, Airbus:

“Mae'r KTP wedi hwyluso ffocws estynedig ar bwnc technegol sy’n neilltuol o anodd, sef gwneud newid go iawn i'r ffordd y mae Deallusrwydd Artiffisial/ Dysgu Peirianyddol yn cael ei ddefnyddio yn y sefydliad. Gwneir hyn oll nid dim ond yn nhermau ymarferol, ond hefyd yn ddiwylliannol ledled y gymuned arbenigol.”

Yn ogystal â datblygu dealltwriaeth Airbus o ‘esbonio’r’ penderfyniad mae AI yn ei wneud, mae’r eKTP wedi datblygu dulliau newydd ar sail tystiolaeth o brofi gwydnwch dulliau AI i ganfod technegau seibr-ymosodiadau sy’n esblygu ac yn tueddu i newid dros amser, yn ogystal â gwrthsafiad rhag ymdrechion i ‘ddrysu’ AI trwy fanipwleiddio’r algorithmau fel eu bod yn gwneud penderfyniad anghywir. Mae'r KTP wedi cynnig mecanwaith lle mae modd datgelu problemau gyda dibynadwyedd model Deallusrwydd Artiffisial / Dysgu Peirianyddol, eu deall, ac felly eu hadfer. Mae hyn wedi cynyddu dibynadwyedd a diogelwch modelau sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, ac mae hefyd wedi cynyddu'r tebygolrwydd y bydd gwasanaethau sy'n cynnwys Deallusrwydd Artiffisial/Dysgu Peirianyddol yn y dyfodol yn fwy dibynadwy a diogel.

Mae hwn yn ddull blaengar sy'n seiliedig ar risg tuag at dechnoleg AI sy’n gadarn ac yn esboniadwy, ac yn gam enfawr ymlaen ym maes gwydnwch busnes. Gallai'r dull a'r wybodaeth newydd a enillir drwy’r prosiect leihau'r costau sylweddol posibl i ddioddefwyr ymosodiadau seiber ac ychwanegu at arbenigedd blaenllaw'r cwmni nid yn unig wrth ddefnyddio AI i wella seiberddiogelwch, ond hefyd gadernid yr AI sy’n cael ei ddefnyddio yn y busnes.

Mae Matthew hefyd wedi sefydlu ei hun yn arweinydd yn y maes hwn drwy ddarlithoedd amrywiol yn fewnol ac yn allanol ac ers hynny mae wedi’i gyflogi yn y maes hwn.

Yr Athro Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd, Cyfarwyddwr Hyb Arloesedd Seiber Cymru a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd oedd arweinydd y prosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth uwch (eKTP) hwn.

"Rhoddodd yr E-Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (eKTP) amser a mynediad inni at fusnes byd-eang, er mwyn inni ddeall pryderon ynghylch cadernid Deallusrwydd Artiffisial (AI). Roedd hefyd wedi ein galluogi i ddilysu dull a allai fod yn dderbyniol o helpu i liniaru pryderon ynghylch y defnydd diogel o AI. Mae hyn yn gamp enfawr o ran mabwysiadu AI yn fyd-eang, gan ei fod dal yn cael ei ystyried yn faes cyfriniol i nifer fawr o sefydliadau."
Yr Athro Pete Burnap Lecturer

Mae Prifysgol Caerdydd ac Airbus wedi gweithio ar y cyd ar brosiectau seiberddiogelwch ers dros ddegawd, gan lansio'r Ganolfan Rhagoriaeth mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch Airbusyn 2017 a'r Ganolfan Rhagoriaeth mewn Seiberddiogelwch yn canolbwyntio ar Bobl Airbus yn 2020.  Mae’r trefniant cydweithio amlddisgyblaeth hwn yn cynnwys meysydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial ar gyfer seibr-ddiogelwch, modelu risg ac effaith uwch, a’r ffactorau dynol sy’n gysylltiedig â seibr-ddiogelwch a gwneud penderfyniadau mewn gweithrediadau diogeledd.

Bydd yr eKTP yn hybu enw da Cymru am seibr-ragoriaeth ymhellach ac yn cefnogi ei nodau, sef arwain mentrau ymchwil seibr-ddiogelwch a phartneriaethau ymchwil academaidd.

Dyma a ddywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

"Mae seiberddiogelwch wir yn gryfder i economi Cymru, wedi'i lywio’n rhannol gan bartneriaethau cryf rhwng y diwydiant a’r byd academaidd sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â phroblemau yn y byd go iawn. Mae hon yn enghraifft wych o'r partneriaethau hyn ar waith, gan ddangos gwerth Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) wrth gysylltu busnesau ag arbenigedd seiliedig ar ymchwil i gefnogi arloesi cydweithredol.

"Mae KTPs yn rhan bwysig o’r ecosystem arloesi yng Nghymru, a gyda’r gwell cymorth sydd bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru, rwy'n annog unrhyw sefydliad sydd â syniad arloesol i fanteisio ar y rhaglen hon a gwireddu'r buddion eu hunain."

I gael rhagor o wybodaeth am KTPs, ewch i: www.cardiff.ac.uk/cy/ktp

Rhannu’r stori hon