Dyfarnu cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol i ymchwilydd o Gaerdydd i ddatblygu firysau clyfar ar gyfer canser yr ymennydd
16 Ionawr 2025

Mae Dr Emily Bates o’r Sefydliad Ymchwil er Imiwnedd Systemau wedi dechrau gwaith yn rhan o gymrodoriaeth gan Elusen Tiwmorau’r Ymennydd.
Bydd yn gweithio ar ymchwil sy’n ystyried a yw feirysau clyfar yn effeithiol wrth geisio trin math ymosodol o ganser yr ymennydd, sef glioblastoma. Nid oes modd gwella’r canser hwn ar hyn o bryd.
Bydd Dr Bates, sy'n rhan o grŵp Imiwnotherapïau Feirysol a Therapiwteg Uwch (VITAL) ym Mhrifysgol Caerdydd, yn derbyn cyllid o £225,000 dros dair blynedd ac mae'n un o ond pum Cymrawd a ddewiswyd ledled y byd. Yn rhan o’i gwaith, mae’n defnyddio feirysau oncolytig i dargedu celloedd glioblastoma a’u lladd, heb niweidio celloedd iach.
Rwy'n falch iawn o fod yn un o bum ymchwilydd i dderbyn y Gymrodoriaeth hon gan The Brain Tumour Charity. Mae ymchwilio i 'firysau clyfar' sy'n chwilio am gelloedd tiwmor ac yn eu lladd yn unig yn cynnig llwybr newydd ar gyfer triniaeth a allai newid llawer o fywydau.
Glioblastoma yw’r tiwmor mwyaf cyffredin ar yr ymennydd ymhlith oedolion. Mae’n arbennig o beryglus, gan ei fod yn gallu osgoi’r system imiwnedd, sy’n ei gwneud yn anoddach ei drin. Gall y feirysau sy’n cael eu defnyddio gan Dr Bates yn ei hymchwil wahaniaethu rhwng celloedd canseraidd a chelloedd iach, fel bod modd iddyn nhw osgoi achosi niwed. Mae feirysau oncolytig wedi cael eu profi’n flaenorol i drin mathau eraill o ganser.

Mae’r gymrodoriaeth hon yn gyfle gwych i Emily ddatblygu ei gyrfa wrth gyfrannu at ddatblygu therapïau y mae wir eu hangen ar gyfer glioblastoma. Mae hefyd yn cyd-fynd â phennod gyffrous i ymchwil canser yng Nghaerdydd, wrth i ni baratoi i lansio ein strategaeth newydd ar gyfer canser a Chanolfan Ymchwil Canser Caerdydd y gwanwyn hwn, gydag ymchwil i ganser yr ymennydd yn chwarae rhan ganolog yn ein gweledigaeth.
Mae Elusen Tiwmorau’r Ymennydd wedi ariannu dwy gymrodoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd drwy ei rhaglen Arweinwyr y Dyfodol. Mae’r gymrodoriaeth yn cynnig £75,000 o gyllid y flwyddyn am dair blynedd.