Coleg yn croesawu deiliaid yr ysgoloriaethau cynhwysol cyntaf
16 Ionawr 2025
Eleni, croesewir Nirushan Sudarsan, Firial Benamer a Kirsty Lee i Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ddeiliaid cyntaf ein hysgoloriaethau PhD cynhwysol.
Bydd y cyfleoedd hyn am ysgoloriaethau, a gafodd eu cyhoeddi ddechau 2024, yn hyrwyddo buddion gyrfaoedd ymchwilwyr yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Dyniaethau a’r Celfyddydau (SHAPE) i gymunedau mwy amrywiol.
Mae cwmpas y prosiectau ymchwil y bydd Nirushan, Firial a Kirsty yn gweithio arnyn nhw’n eang ac yn amrywiol, gan gwmpasu cynllunio trefol, dysgu iaith, a negeseuon iechyd y cyhoedd. Rhoddwyd cyfle i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddewis o naill ai un o 10 prosiect a bennwyd ymlaen llaw neu gynnig prosiect eu hunain.
Mae Nirushan, sy’n hanu o Gaerdydd, wedi dechrau gweithio ar brosiect a bennwyd ymlaen llaw sy’n dwyn y teitl: Mannau cynhwysol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol: Cyd-gynhyrchu mannau trefol a chynlluniau gyda phlant a phobl ifanc o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, ar y cyd ag academyddion o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio.
Roedd Firial, sy'n hanu o ddinas Benghazi yn Libya, a Kirsty sy'n dod yn wreiddiol o Dorset, ill dwy wedi cynnig eu prosiectau ymchwil eu hunain. Mae Firial yn gweithio gyda’r Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ar brosiect o’r enw: Deall profiadau dysgwyr naill ai o gymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol (BAME) neu Saesneg yw un o’u hieithoedd, o ddysgu ieithoedd yn rhan o’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Yn achos Kirsty, mae hi’n gweithio gydag Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant i ymchwilio’r prosiect canlynol: Rôl negeseuon iechyd y cyhoedd mewn anghydraddoldebau gofal iechyd, gan ganolbwyntio ar fenywod BAME a menywod sy’n dioddef o drawma.
Dyma a ddywedodd yr Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesi Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, “Rydyn ni’n mor falch bod Nirushan, Firial a Kirsty wedi dechrau eu prosiectau ymchwil yn rhan o'n rhaglen o ysgoloriaethau PhD Cynhwysol. Mae angen i ddiwylliant ymchwil Prifysgol Caerdydd adlewyrchu meddyliau, syniadau a phrofiadau grwpiau sydd wedi cael eu tangynrychioli yn y gorffennol. Rwy'n falch bod ein Coleg yn gwneud cynnydd o ran y cyfle hwn. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd pob prosiect yn esblygu, yn ogystal â gweld datblygiad personol a phroffesiynol y bobl ifanc ragorol hynny sydd wedi ennill y bwrsariaethau hyn.”
Dyma a ddywedodd yr Athro Urfan Khaliq, Rhag Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, “Yr ysgoloriaethau hyn yw’r cyntaf o’u math ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yng Nghymru hyd y gwyddom ni. Tybir bod nifer o brifysgolion yn bodoli ar wahân i'r gymdeithas ehangach a'n cymunedau amrywiol. Yn baradocsaidd, mae nifer o brifysgolion yn ystyried eu hunain yn rhan annatod o'r cymunedau hynny lle maen nhw wedi'u lleoli. Ond mae'r dystiolaeth yn anwadadwy. A ninnau’n un o’r prif sefydliadau angori, mae’n ddyletswydd arnom ni i adlewyrchu'n well y tapestri cyfoethog o gymunedau sy'n rhan o Brydain fodern. Yn y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn arbennig, ni fu’r dirwedd ariannu ar gyfer dyfarniadau doethuriaethol erioed mor heriol. Felly, cafodd y dyfarniadau hyn eu creu i fod yn dyst i’n hymrwymiad i’r disgyblaethau amrywiol sydd gennyn ni, a hefyd i feithrin lleisiau a meysydd ymholi newydd a all herio ambell naratif sydd wedi’i hen sefydlu.”