Cyn-fyfyrwyr yn cael eu cydnabod yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2025
15 Ionawr 2025
Mae'r Brifysgol yn falch o ddathlu cyflawniadau ei chyn-fyfyrwyr sydd wedi cael eu cydnabod yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2025.
Urddwyd cyn-Gadeirydd CRUK yr Athro Leszek Borysiewicz (BSc 1972, MBBCh 1975, Anrh 2006) yn Farchog Groes Fawr Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i ymchwil canser, i ymchwil glinigol, i feddygaeth ac i elusennau.
Urddwyd Gerald Davies CBE (Anrh 2008), cyn-Lywydd Undeb Rygbi Cymru ac asgellwr i Gymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, yn farchog am wasanaethau i Rygbi'r Undeb yng Nghymru.
Urddwyd y bersonoliaeth deledu a'r cyflwynydd Stephen Fry (Anrh 2010), sydd hefyd yn Llywydd elusen Mind, yn farchog am wasanaethau i ddarlledu, drama ac elusennau.
Urddwyd yr Athro Bashir Al-Hashimi CBE (MSc 1986), Is-lywydd (Ymchwil ac Arloesedd) Coleg y Brenin Llundain, yn farchog am wasanaethau i beirianneg ac addysg.
Dyfarnwyd CBE i Ruth Marks MBE (BA 1982) am wasanaethau i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Hi yw cyn Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Dyfarnwyd CBE i Jan Williams OBE (MBA 1994), Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am wasanaeth cyhoeddus.
Dyfarnwyd CBE i'r Comodor yr Awyrlu James Savage OBE (BSc 1990).
Dyfarnwyd OBE i’r newyddiadurwr Rebecca Thomson (PgDip 2005) am wasanaethau i gyfiawnder, a hynny am ei rôl yn adrodd stori newyddion sgandal Swyddfa’r Post.
Dyfarnwyd OBE i'r Athro David Blaney (EdD 2005), cyn Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, am wasanaethau i addysg uwch.
Dyfarnwyd OBE i Paul Hudson (MSc 1971) am wasanaethau i gynllunio trefi.
Dyfarnwyd OBE i Dr Christopher Martin (BPharm 1980) am wasanaethau i’r sector morwrol a phorthladdoedd.
Dyfarnwyd MBE i’r Athro Keyoumars Ashkan (MD 2007), Niwrolawfeddyg Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Coleg y Brenin, am wasanaethau i niwrolawdriniaeth.
Dyfarnwyd MBE i Helen Bonnick (BScEcon 1980), sy’n arbenigwr ym maes cam-drin plant i riant, am wasanaethau i deuluoedd.
Dyfarnwyd MBE i enillydd medal Baralympaidd Dimitri Coutya (CertHE 2019) am wasanaethau i gleddyfa.
Dyfarnwyd MBE i Rodney Arnold (BScTech 1989) am wasanaethau i wyddoniaeth begynol a hedfanaeth yn Nhiriogaeth Antarctig Prydain.
Dyfarnwyd MBE i'r Athro Clare Wilkinson (MBBCh 1980, MD 1996), Athro Emeritws Ymarfer Cyffredinol ym Mhrifysgol Bangor am wasanaethau i ymchwil, addysgu ac ymarfer gofal sylfaenol.
Dyfarnwyd MBE i Lee Wong (TAR/PCET 2005) am wasanaethau i Wasanaeth Gwaed Cymru.
Dyfarnwyd MBE i Dr Andrew Feyi-Waboso (LLM 2001), un o sylfaenwyr Sight 2020 Direct, am wasanaethau i ofal llygaid rhyngwladol ym Malawi a Nigeria.
Dyfarnwyd MBE i'r Is-gyrnol Alexander Rabbitt (BSc 2005).
Dyfarnwyd BEM i Dr Marion Andrews-Evans (DHS 2013) am wasanaethau i nyrsio, iechyd a gwasanaethau gofal.
Rydyn ni mor falch o'n cymuned o gyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi’u cydnabod am eu hymroddiad a'u cyflawniadau.