Polisïau cyhoeddus sy’n ymwneud â bwyd yn allweddol er mwyn newid bywydau
15 Ionawr 2025

Mae cynnig bwyd maethlon i blant, cleifion ysbyty a charcharorion yn creu budd cymdeithasol sylweddol, yn ôl academydd o Brifysgol Caerdydd.
Mae'r Athro Kevin Morgan wedi treulio dros ugain mlynedd yn astudio effaith mudiad rhyngwladol Bwyd Da (The Good Food Movement), gan asesu polisïau sy'n ceisio datblygu system fwyd deg, iach a chynaliadwy.
Mae gan Gymru statws unigryw yn y DU gan mai hi yw’r unig genedl i gyflwyno cynllun Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd. Cyflwynwyd polisi tebyg yn yr Alban, ond nid yw eto yn cynnwys plant yn nwy flynedd olaf yr ysgol gynradd. Mae bwrdeistrefi Llundain hefyd yn cynnig cynllun Prydau Ysgol am Ddim ym mhob ysgol gynradd a ariennir gan y wladwriaeth.
Mae llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod dilyn yr un trywydd yn Lloegr oherwydd, meddai, y bydd yn cyflwyno cynllun Brecwast am Ddim yn lle hynny.
Meddai'r Athro Morgan, sy’n gweithio yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: “Ansicrwydd bwyd yw un o'r heriau mwyaf y mae llywodraethau yn eu hwynebu. Mae'r ‘plât cyhoeddus’ bellach yn cael ei gydnabod yn offeryn grymus all fod o fudd sylweddol. Ymhlith pethau eraill, mae'n cael ei ddefnyddio i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, iechyd y cyhoedd ac uniondeb ecolegol, sef gwerthoedd sylfaenol datblygu cynaliadwy.”
“Mae gan blant, cleifion ysbyty a charcharorion un peth yn gyffredin – maen nhw ymhlith yr unigolion mwyaf bregus mewn cymdeithas. Dydy’r cyfle i gael prydau maethlon ddim yn unig yn dda iddyn nhw fel unigolion – mae manteision pendant i gymdeithas yn ehangach, mae’n arwain at ganlyniadau gwell ac at lai o faich ar y wladwriaeth ym maes iechyd yn y pen draw.”
Mae llyfr yr Athro Morgan, Serving the public: the good food revolution in schools, hospitals and prisons,yn ymchwilio i agweddau llywodraethau ledled y byd tuag at fwyd, gan dynnu sylw at gyrff cyhoeddus sy'n ymdrechu i weini bwyd da “yn groes i’r graen”.
Ychwanegodd yr Athro Morgan: “Yn wir, mae chwyldro bwyd da yn digwydd yn y DU a thu hwnt, ond mae'r gwaith yn bell o fod ar ben. Er ein bod wedi cymryd camau breision i fynd i'r afael â llwgu a diffyg maeth ymhlith y rhai mwyaf bregus, mae'r argyfwng costau byw wedi golygu bod angen gweithredu ar fyrder, yn enwedig yn dilyn y pandemig.
“Yr eironi yw bod grwpiau bwyd lleol yn cael trafferth goroesi’n ariannol, er eu bod yn gweithio i fynd i'r afael â rhai o heriau cymdeithasol mwyaf yr unfed ganrif ar hugain. Maen eu gwaith, sef cynnig bwyd da, ar flaen y gad o ran brwydro yn erbyn newid hinsawdd, ansicrwydd bwyd a baich dwbl diffyg maeth."
Mae’n hanfodol perswadio aelodau o’r elît gwleidyddol i gymryd diwygio'r system fwyd o ddifrif. Fodd bynnag, dim ond dechrau’r broses yw hyn, sydd angen cynnwys pawb yn y gadwyn fwyd, o'r fferm i'r fforc, os yw'r DU am greu system fwyd mwy cynaliadwy.