Pynciau llosg a chipolwg arbenigol: crynodeb o Sesiynau Hysbysu dros Frecwast yr hydref
15 Ionawr 2025
Cyflwynodd Sesiynau Hysbysu dros Frecwast hydref 2024 Ysgol Busnes Caerdydd gyfres o sesiynau oedd yn ysgogi’r meddwl, gydag arbenigwyr proffil uchel sy’n mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu Cymru a thu hwnt.
O Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i gyflawni Sero Net, roedd y gyfres yn cynnwys pynciau amrywiol a lleisiau adnabyddus, gan gynnwys uwch arweinwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.
Mae'r Sesiynau Hysbysu dros Frecwast yn parhau i fod yn lle hanfodol i academyddion, ymarferwyr busnes, llunwyr polisïau, y cyfryngau, a rhanddeiliaid eraill rannu gwybodaeth, trafod syniadau, ac ystyried atebion i broblemau difrifol.
Roedd sesiynau hysbysu dros frecwast hydref 2024 yn cynnwys:
Bu Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd a Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Menywod UEFA, a'r Gwir Anrhydeddus Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint ac Archesgob Cymru yn rhoi cyflwyniadau.
Cyflwynon nhw wybodaeth allweddol o'u hadroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, menter drawsbleidiol sydd â’r nod o ragweld y Gymru rydyn ni’n dyheu i’w chreu. Roedd y drafodaeth yn trin a thrafod llwybrau cyfansoddiadol posibl ac amlygodd ymdrechion parhaus i weithredu argymhellion sy'n canolbwyntio ar ddemocratiaeth ac ymgysylltiad.
Eglurodd y sesiwn hon strategaethau i annog cyfleoedd busnes byd-eang, gan ganolbwyntio ar gefnogaeth ymarferol i arweinwyr busnesau bach.
Ar y panel arbenigol a gafodd ei gynnal gan yr Athro Jane Lynch, roedd Richard Harris (Pennaeth Masnach Llywodraeth Cymru), Gareth John (Adran Masnach Ryngwladol - Cymru), Stephen Wilson (Rheolwr Cyllid Allforio, UKEF Cymru a Swydd Henffordd), a Paul Wong (Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd, Global Business and Investment). Gyda'i gilydd, fe wnaethon nhw egluro masnach ryngwladol a rhannu cyngor gweithredol ar ehangu busnes.
Cyflwynodd Jane Davidson, Cadeirydd Grŵp Her Sero Net 2035 a chyn-Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, gynllun ar gyfer cyflawni Sero Net yng Nghymru erbyn 2035.
Gan ddefnyddio ymchwil arloesol ac arferion gorau byd-eang, amlinellodd Jane lwybrau ym meysydd allweddol megis trafnidiaeth, ynni a diogelwch bwyd, gan gynnig cipolwg ar yr hyn y gall llywodraeth, busnesau a dinasyddion ei wneud i gyrraedd Sero Net.
Y Mesur Hawliau Cyflogaeth 2024 - Rheoleiddio er Newid Cadarnhaol
Ar gyfer ein sesiwn hysbysu ym mis Rhagfyr, ymunodd Jean Jenkins, Athro Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd, a Nisreen Mansour o TUC Cymru â ni.
Rhoddon nhw drosolwg o’r ‘Mesur Hawliau Cyflogaeth 2024' a thrafod ei ddull newydd o ymdrin â hawliau cyflogaeth, yn enwedig eu heffaith ar weithwyr â swyddi sydd â chytundebau llai ffurfiol.
Cadwch ar y blaen
Ymunwch â'n Cymuned Addysg Weithredol i gael gwahoddiadau i ddigwyddiadau yn y dyfodol, y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau, a chylchlythyrau unigryw.
Darllen ein crynodeb: