Ewch i’r prif gynnwys

Lleihau defnydd gwrthfiotigau yn ddiogel mewn ysbytai

14 Ionawr 2025

Pharmacist holding medicine box and capsule pack

Ymchwil newydd yn dod i'r casgliad nad yw prawf gwaed PCT (procalcitonin) yn lleihau hyd y driniaeth â gwrthfiotigau ar gyfer plant yn yr ysbyty.

Mae astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Lerpwl, ar y cyd â Chanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd, wedi canfod nad oedd prawf gwaed a gafodd ei ddefnyddio i ddiagnosio heintiau a sepsis yn lleihau hyd yr amser y mae plant yn ei dreulio ar wrthfiotigau mewnwythiennol yn yr ysbyty, a hynny er gwaethaf dadansoddiad addawol blaenorol.

Ymwrthedd gwrthficrobaidd yw un o heriau mwyaf ein hoes - ac mae lleihau gorddefnydd meddyginiaethau gwrthfiotig yn rhan hanfodol o fynd i'r afael â hi. Yn ogystal â chael effaith fyd-eang, mae hefyd yn broblem sy'n effeithio ar fywydau cleifion - gan fod heintiau a gaiff eu hachosi gan facteria sy’n gwrthsefyll y driniaeth yn cynyddu hyd yr amser yn yr ysbyty, yn ogystal â marwolaethau. Mae gweithredu’n warchodwyr gwrthfiotig yn hanfodol ar gyfer iechyd cleifion unigol yn y dyfodol, yn ogystal â mynd i'r afael â'r her fyd-eang hon.
Dr Emma Thomas-Jones Research Fellow - Senior Trial Manager in Infections and Devices

Aeth yr astudiaeth ati i ymchwilio i rôl profion PCT, sy'n helpu i ddiagnosio heintiau a sepsis, wrth leihau hyd yr amser ar wrthfiotigau yn yr ysbyty. Cafodd y treialon clinigol eu cynnal mewn 15 o ysbytai gyda bron i 2,000 o blant rhwng tridiau oed a 18 oed lle’r oedd amheuaeth bod heintiau bacterol arnyn nhw.

Mae'r astudiaeth yn rhan o'r treial ‘Biomarker-guided duration of Antibiotic Treatment in Children Hospitalised with confirmed or suspected bacterial infectionr’ (BATCH) - treial ymchwil cenedlaethol i fynd i'r afael â defnyddio gormod o wrthfiotigau ar blant yn yr ysbyty a lleihau'r lledaeniad o ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad nad oedd ychwanegu'r prawf PCT at ofal rheolaidd yn lleihau hyd y defnydd o wrthfiotigau mewnwythiennol. Roedd y prawf yn ddiogel ond yn ddrutach na'r dulliau safonol, gan gyflwyno heriau i dimau gofal iechyd wrth ei integreiddio i'w prosesau gwneud penderfyniadau.

Mae'r astudiaeth yn dilyn adolygiad systematig a dadansoddiad cost-effeithiolrwydd wedi’i gynnal gan NICE yn 2015. Roedd hyn wedi gwerthuso profion PCT wrth arwain therapi gwrthfiotig ar gyfer trin sepsis, gan argymell astudiaethau pellach i asesu'n ddigonol effeithiolrwydd ychwanegu algorithmau PCT i lywio triniaeth meddyginiaethau gwrthfiotig mewn oedolion a phlant yn yr ysbyty lle’r oedd amheuaeth neu gadarnhad bod heintiad bacteriol difrifol arnyn nhw.

Mae'r canlyniadau'n pwysleisio nad yw cyflwyno dulliau newydd megis profion PCT yn unig yn ddigon. Yn ôl argymhelliad y canlyniadau, dylai ysbytai roi ar waith rhaglenni Rheolaeth Gwrthficrobaidd, hyfforddiant ac addysg ar gyfer clinigwyr, newidiadau ymddygiadol, ac astudiaethau pellach.

Dywedodd yr Athro Enitan Carrol, Prif ymchwilydd Prifysgol Lerpwl: “Er nad oedd yr astudiaeth yn dangos bod y prawf PCT ychwanegol yn cynnig buddion, mae yma wers bwysig i ni ar gyfer treialon wedi'u harwain gan fiofarcwyr yn y GIG yn y dyfodol.

“Roedd astudiaeth BATCH yn dreial pragmatig yn gwerthuso a oedd yr ymyriad yn gweithio o dan amodau byd go iawn lle nad oes angen i glinigwyr ddilyn algorithmau diagnosis ynghylch parhau i ddefnyddio gwrthfiotigau. Roedd ymrwymiad i'r algorithm yn isel yn ein hastudiaeth, ac roedd yna heriau yn integreiddio'r prawf i’r llif gwaith clinigol rheolaidd. Mae'r astudiaeth yn pwysleisio pwysigrwydd cynnwys newid ymddygiad a fframweithiau gweithredu wrth ddylunio profion pragmatig.”

Mae ymchwil yn hanfodol i wella rheolaeth ar heintiau bacteriol difrifol, megis sepsis. Mae'r prawf pwysig hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gan ddarparu tystiolaeth glir ar ddefnyddio PCT yn fiofarciwr wrth lywio penderfyniadau clinigol ynghylch parhau i ddefnyddio gwrthfiotigau ar blant â heintiau bacteriol difrifol.
Dr Emma Thomas-Jones Research Fellow - Senior Trial Manager in Infections and Devices

Cafodd prawf BATCH ei ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal a’i gynnal gan brifysgolion ac ysbytai blaenllaw yn y DU, gan gynnwys Prifysgol Lerpwl, Ysgol Meddyginiaeth Drofannol Lerpwl, Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Ysbyty ar gyfer Plant Alder Hey, Canolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Southampton a Phrifysgol Caerhirfryn, Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Ysbyty ar gyfer Plant Sheffield, Ymddiriedolaeth y GIG Ysbytai Prifysgol Rhydychen, Ysbyty Brenhinol Bryste ar gyfer Plant, Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Ysbyty Prifysgol Southampton a Choleg Meddygol Hull York.

Rhannu’r stori hon