Yr Athro Nick Jenkins yn derbyn OBE am ei gyfraniadau at ynni adnewyddadwy a thechnolegau Smart Grid
13 Ionawr 2025
Mae’r Athro Nick Jenkins yn academydd o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, ac mae wedi derbyn OBE (Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2025.
Mae'r anrhydeddau’n cydnabod unigolion ledled y DU sydd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol yn eu meysydd priodol, gan ddathlu gwaith arloesol yr Athro Jenkins mewn systemau ynni.
Mae'r Athro Jenkins wedi arloesi mewn datblygu a defnyddio atebion ynni adnewyddadwy uwch a thechnolegau Smart Grid, nid yn unig i gefnogi gwaith ymchwil ac addysg yng Nghymru ond i gael effaith sylweddol ar y sefyllfa ynni yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Ers ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 2008 i sefydlu'r Ganolfan Cynhyrchu a Chyflenwi Ynni Adnewyddadwy Integredig (CIREGS), mae'r Athro Jenkins wedi bod ar flaen y gad o ran gwaith ymchwil ynni adnewyddadwy a Smart Grid, gan wneud CIREGS yn un o brif ganolfannau ymchwil ynni Cymru. Mae ei gyfraniadau wedi cyfrannu at fabwysiadu technolegau Smart Grid yn eang ledled y DU a thu hwnt.

Y tu hwnt i waith ymchwil, mae'r Athro Jenkins wedi cael dylanwad ar bolisïau ynni, gan wasanaethu ar baneli allweddol yn Ewrop a'r DU, gan gynnwys Panel Arbenigwyr Technegol BEIS a Phanel Arloesi Rhwydwaith OFGEM, a oedd yn cynghori ar y Gronfa Rhwydwaith Carbon Isel gwerth £500 miliwn ar gyfer arloesedd Smart Grid.
Mae’n eiriolwr dros addysg, ac mae’r Athro Jenkins wedi datblygu cynnwys addysgu israddedig ac ôl-raddedig mewn technolegau ynni adnewyddadwy a Smart Grid ym Mhrifysgol Caerdydd, gan feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes ynni. Mae wedi cyhoeddi mwy na 10 o lyfrau, sy’n cael eu hystyried yn destunau hanfodol yn y maes.
Mae gwaith yr Athro Jenkins wedi ennill sawl cymrodoriaeth arobryn, gan gynnwys Athro Gwadd Shimizu ym Mhrifysgol Stanford (2009-11), a Chymrodoriaethau’r Academi Beirianneg Frenhinol, IEE, IET, a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, a chafodd ei enwi’n aelod nodedig o’r CIGRE yn 2010.