Gradd meistr newydd yn cael ei lansio ar gyfer 2025
10 Ionawr 2025
Mae rhaglen meistr newydd arloesol mewn Deallusrwydd Artiffisial a chynhyrchu cyfryngau digidol wedi’i chyhoeddi gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd ar gyfer mis Medi 2025.
Bydd y rhaglen flwyddyn hon yn trin a thrafod defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a chyfryngau digidol newydd a bydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i lwyddo fel gweithiwr proffesiynol cynnwys a chyfathrebu.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio mewn cydweithrediad â’r diwydiant mewn ymateb i’r tueddiadau adrodd straeon diweddaraf a’i nod yw cyflwyno graddedigion hyderus a hyfedr a fydd, erbyn diwedd eu hastudiaethau, yn barod i ddechrau gweithio yn y gweithle.
Yn ystod y cwrs, bydd myfyrwyr yn gweithio mewn amgylchedd proffesiynol realistig ac yn cael cyfle i greu fideos, podlediadau ac animeiddiadau. Byddan nhw hefyd yn cael profiad ymarferol wrth iddyn nhw fynd i weithio ar nifer o friffiau creadigol gan bartneriaid yn y diwydiant trwy gydol y flwyddyn, gan arwain at ddatblygu portffolio o waith a fydd o fudd iddyn nhw tra’n dechrau eu gyrfaoedd.
Dywedodd Dr Matt Walsh, Pennaeth yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant: “Mae’r ffordd mae straeon yn cael eu hadrodd yn newid bob amser a dyna pam rydyn ni’n edrych ymlaen at lansio ein rhaglen meistr mewn Deallusrwydd Artiffisial a Chynhyrchu Cyfryngau Digidol. Mae hwn yn gwrs newydd arloesol a chyffrous lle bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu sut gall y dechnoleg ddiweddaraf eu helpu i adrodd eu straeon wrth wahanol gynulleidfaoedd.
“Nid yn unig hynny, ond bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan staff academaidd ac ymarferwyr sy’n arbenigwyr mewn Deallusrwydd Artiffisial a chynhyrchu cyfryngau digidol ac a fydd yn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw i fentro i fyd gwaith.”
Mae modd cyflwyno cais nawr i ddilyn y rhaglen hon. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen ein cwrs.