Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilydd i Glefydau Anghyffredin yn cydweithio ag artistiaid ar gyfer Cambridge RareFest

25 Tachwedd 2024

Bu Dr Samuel Chawner, ymchwilydd yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, yn cymryd rhan mewn digwyddiad sy’n dod ag artistiaid ac ymchwilwyr ynghyd i dynnu sylw at brofiadau’r rhai sy’n dioddef o gyflyrau genetig anghyffredin.

Cafodd Sam ei wahodd i gymryd rhan o ganlyniad i’w waith ar yr astudiaeth IMAGINE-ID, sydd wedi casglu data datblygiadol ac iechyd meddwl am dros 2500 o blant sy’n byw gyda chyflyrau genetig anghyffredin, sy’n dangos yr effaith ar wybyddiaeth, cyfathrebu, gallu cymdeithasol, swyddogaeth echddygol, hwyliau, gorbryder a gweithrediad cwsg.

Bu Sam yn cydweithio gyda'r artist, Nadia Koo ar ddarn ynghylch 'Genomeg Bywyd', sy’n dangos plentyn sydd wedi’i effeithio gan gromoson sydd wedi cael ei ddileu. Arddangoswyd y darn yn y digwyddiad. Roedd y broses hon yn cynnwys galwadau fideo lle'r oedd Sam yn gallu trafod ei waith ymchwil am blant â chyflyrau genomig anghyffredin. O ganlyniad, gwnaeth Nadia ddrafft o’r gwaith celf a'i addasu cyn iddo gael ei arddangos yn Cambridge RareFest. Mae'r gwaith celf (a ddangosir uchod), yn defnyddio lliwiau trawiadol a llachar i ddangos plentyn sydd, wrth edrych yn agosach, yn byw gyda chyflwr genetig anghyffredin.

Meddai Nadia, "Er fy mod i wedi portreadu cromosomau a chôd genetig yn y darlun, mae’r gynulleidfa’n gweld y plentyn yn gyntaf, cyn ystyried effaith llawn y symptomau sy’n gallu cynnwys iechyd meddwl gwael, anhwylderau cysgu, seicosis neu anhwylderau bwyta. Ni ddylai plant sydd â chyflyrau genomig anghyffredin gael eu hystyried ar sail eu cyflwr meddygol yn unig, ond yn blant sy'n byw bywyd i'r eithaf fel unrhyw blentyn arall."

Gan fyfyrio ar lwyddiant y digwyddiad, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr CamRare, Jo Balfour, "Mae wedi bod yn wych gweld cydweithio mor wych yn dod codi o brosiect ART-TRAnslations dros y flwyddyn. Ac arbennig iawn oedd cael gweld yr artistiaid, ymchwilwyr a'u gwaith celf gwych yn cael ei arddangos yn #RAREfest24 y penwythnos hwn." Llongyfarchiadau i Sam a Nadia ar eu darn trawiadol.

Rhannu’r stori hon