Ewch i’r prif gynnwys

Dau Athro yn ennill Medal Goodeve

8 Ionawr 2025

Mae dau Athro yn Ysgol Busnes Caerdydd, sef Bahman Rostami-Tabar ac Aris Syntetos, wedi ennill Medal Goodeve 2024 gan y Gymdeithas Ymchwil Weithredol.

Mae'r wobr yn cydnabod eu hymchwil arloesol a gafodd ei chyhoeddi yn Journal of the Operational Research Society (JORS).

Mae’r papur buddugol sy’n dwyn yr enw “To aggregate or not to aggregate: Forecasting of finite autocorrelated demand”,wedi’i arwain gan yr Athro Rostami-Tabar a'i gyd-ysgrifennu gan yr Athro Zied Babai o Ysgol Busnes KEDGE yn Ffrainc a'r Athro Syntetos, yn mynd i'r afael â her bwysig ym maes rhagweld galw: agregu amserol. Mae i’r broses hon o ddosbarthu data yn gyfnodau hirach o amser – wythnosol yn hytrach na dyddiol – oblygiadau sylweddol yng nghyswllt gwneud penderfyniadau sy’n ymwneud â gofal iechyd a chadwyni cyflenwi.

Mae'r astudiaeth yn cynnig cipolygon ymarferol ar sut mae ffactorau megis hunangydberthynas, gorwelion rhagweld a hyd cyfresi yn dylanwadu ar gywirdeb rhagolygon. Mae’r canfyddiadau, sydd wedi’u cefnogi gan dystiolaeth empirig gadarn, yn cynnig argymhellion ymarferol ar gyfer defnyddio agregu amserol yn y byd go iawn.

Dathlu rhagoriaeth ym maes ymchwil weithredol

A hithau wedi’i sefydlu ym 1948, y Gymdeithas Ymchwil Weithredol yw’r sefydliad ymchwil weithredol cyntaf o’i fath yn y byd sy'n dathlu arloesi wrth ddatrys materion cymhleth o ran rheoli a gweithredu.

Mae Medal Goodeve, a gafodd ei chyflwyno yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ar 5 Rhagfyr 2024, yn cydnabod ymchwil fwyaf rhagorol y flwyddyn a gyhoeddwyd yn Journal of the Operational Research Society (JORS).

Mae'r wobr yn ailgadarnhau rhan arweiniol Ysgol Busnes Caerdydd wrth ddatblygu ymchwil effeithiol ac arwyddocaol yn fyd-eang ym maes ymchwil weithredol.

Yr Athro Rostami-Tabar sy’n arwain y Labordy Data er Budd Cymdeithasol, tra bod yr Athro Syntetos yn arwain Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestrau PARC. Mae'r ddau sefydliad yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau o bwys mawr yn fyd-eang, sy’n amrywio o ofal iechyd a chynaliadwyedd i gadwyni cyflenwi a'r economi gylchol, gan roi’r wybodaeth inni allu llywio dyfodol ansicr.

“Anrhydedd a braint fawr imi yw derbyn Medal Goodeve 2024 gan y Gymdeithas Ymchwil Weithredol. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn mwyhau fy angerdd dros Ymchwil Weithredol ac yn fy ysbrydoli i hyrwyddo'r maes ymhellach, yn enwedig o ran ei gyfraniadau at fudd cymdeithasol a chreu gwerth cyhoeddus.”
Yr Athro Bahman Rostami-Tabar Athro Gwyddor Penderfyniad a Yrrir gan Ddata

“Braint o’r mwyaf yw gweld ein gwaith yn cael ei gydnabod gan y Gymdeithas Ymchwil Weithredol yn y fath modd. Mae ein cyfadran wedi cyfrannu cryn dipyn at ddatblygu gwybodaeth ym maes rhagweld ac ymchwil weithredol, ac rydyn ni’n falch iawn o gael ein cydnabod am wneud hynny.”
Yr Athro Aris Syntetos Distinguished Research Professor, DSV Chair

Rhannu’r stori hon