Ewch i’r prif gynnwys

Dr Alix Beeston Awarded Prestigious Senior Research Fellowship at Université Grenoble Alpes

6 Ionawr 2025

Mae Uwch Gymrodoriaeth Ymchwil wedi’i dyfarnu i Dr Alix Beeston, Darllenydd mewn Llenyddiaeth a Diwylliant Gweledol yn yr Ysgol Saesneg, Athroniaeth a Chyfathrebu, gan y Maison de la Création et de l’Innovation (MaCI) fawreddog yn Université Grenoble Alpes.

Mae'r gymrodoriaeth yn cydnabod ymchwil arloesol, ryngddisgyblaethol Dr Beeston ac yn cynnig cyfle gwerthfawr ar gyfer cydweithio a datblygu.

Mae gwaith Dr Beeston yn rhychwantu llenyddiaeth, diwylliant gweledol, ac astudiaethau rhywedd, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfraniadau menywod i hanes ffilm a llenyddiaeth.

Mae ei phrosiect cymrodoriaeth, Creativity in Motion: A History of Women's Unfinished Creative Labour, yn ymchwilio i realiti materol ac effeithiau gwaith creadigol menywod wrth iddyn nhw gael eu datgelu trwy brosiectau anorffenedig.

Gan adeiladu ar ei hymchwil flaenorol yn y maes hwn, yn enwedig trwy ei chyfrol arobryn a gafodd ei golygu ar y cyd Incomplete: The Feminist Possibilities of the Unfinished Film, nod gwaith Dr Beeston yw ymyrryd mewn dadleuon ymhlith ysgolheigion, artistiaid, a chynulleidfaoedd ffeministaidd ynghylch sut i gyfrif am gyflawniadau creadigol menywod heb greu mytholeg o gwmpas yr artistiaid na diystyru eu gwaith.

Yn ystod ei chyfnod yn Grenoble o fis Chwefror i fis Ebrill 2025, bydd Dr Beeston yn gosod y sylfaen ar gyfer cam nesaf ei hymchwil i weithiau anorffenedig artistiaid ac awduron benywaidd o’r Unol Daleithiau, gan gynnwys y gwneuthurwr ffilmiau a’r awdur Kathleen Collins a’r awdur Tillie Olsen.

Yn un o sawl cymrawd preswyl rhyngwladol yn Grenoble, bydd yn cydweithio ag ysgolheigion ac ymarferwyr o ystod o ddisgyblaethau, gan gyfoethogi ei hymchwil trwy brosesau cyfnewid gwybodaeth ac arloesi rhyngwladol.

Mae'r penodiad yn enghraifft o ymroddiad yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth i ymchwil ryngddisgyblaethol flaengar ac effaith fyd-eang. Wrth dderbyn y gymrodoriaeth, dywedodd Dr Beeston:

“Mae'r cadarnhad hwn o bwysigrwydd fy ymchwil i brosiectau anorffenedig menywod yn anrhydedd i mi ac rwy'n teimlo'n freintiedig iawn i gael amser a lle i'w neilltuo i'r gwaith hwn. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod mewn canolfan ymchwil ddeinamig gydag ymdeimlad mor gryf o werth ysgolheictod y dyniaethau. Rwy hefyd yn edrych ymlaen at gwrdd â’r cymrodyr eraill, ysgolheigion ac ymarferwyr lleol, a staff MaCI a dysgu ganddyn nhw.”

Mae’r Uwch Gymrodoriaeth Ymchwil yn nodwedd amlwg o ymrwymiad MaCI i feithrin creadigrwydd a rhyngddisgyblaeth ar draws y dyniaethau a’r celfyddydau.

Rhannu’r stori hon