Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Jane Henderson ACR FIIC wedi'i dewis gan Icon i’w henwebu i Gyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

3 Ionawr 2025

A woman smiling at the camera in the outdoors

Yn dilyn ethol Icon yn Gorff Penodi'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae'r Athro Jane Henderson ACR FIIC wedi cael ei henwebu gan Icon i fod ar y Cyngor.

Yn dilyn ethol Icon yn Gorff Penodi'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Ymddiriedolaeth ym mis Tachwedd, fe gyhoeddodd Icon alwad agored am fynegiadau o ddiddordeb yn y cyfle hwn o blith yr aelodau.

Dewiswyd yr Athro Jane Henderson ARC FIIC yn dilyn adolygiad o geisiadau gan Bwyllgor Enwebiadau Icon.

Roedd hi'n llais amlwg dros gadwraeth a chadwraethwyr proffesiynol ar Gyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bydd yr Athro Henderson yn mynd i gyfarfodydd y Cyngor, er mwyn arsylwi ar y dechrau nes daw swydd ar gael yn ffurfiol yn 2025.

A hithau’n arweinydd meddwl cydnabyddedig yn y gymuned gadwraeth, yr Athro Henderson yw Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad Cadwraeth Rhyngwladol (IIC) ac mae wedi bod yn gefnogwr brwd i Icon ers tro.

Mae hyn yn cynnwys chwarae rhan sylfaenol wrth ddatblygu achrediad proffesiynol. Yn Athro Cadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r Athro Henderson yn addysgwr angerddol ac yn academydd sydd wedi'i hymgorffori mewn ymarfer.

Ar hyd ei gyrfa mae hi wedi herio strwythurau traddodiadol o wneud penderfyniadau cadwraeth, cefnogi arferion cynaladwyedd, a chydweithio gyda gweithwyr cadwraeth broffesiynol ar gyfathrebu a dylanwad o fewn y maes.

Dywedodd yr Athro Henderson:

Rwy wrth fy modd i fod yn enwebiad Icon ar gyfer bwrdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.“Rwy’n gefnogwr mawr o’r ymddiriedolaeth fel ymwelydd, bwytwr sgon neu ddwy ac o’r gwaith y mae’r tîm cadwraeth yn ei gyflawni.
Yr Athro Jane Henderson Professor of Conservation (Study Leave 2022/3 (Semester 1))

“Ar gyfer fy holl yrfa ym maes cadwraeth mae’r cadwraethwyr o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cynnig dadansoddiad ac arweiniad o’r radd flaenaf ac rydw i’n awyddus iawn i gefnogi’r Ymddiriedolaeth i barhau i gyflawni hyn.”

"Rwy'n falch iawn y bydd Jane yn ymuno â Chyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol," meddai Emma Jhita, Prif Swyddog Gweithredol Icon, mewn ymateb i enwebiad Jane.

“A hithau’n llais blaenllaw ar gyfer y proffesiwn ac yn eiriolwr angerddol dros rôl hanfodol cadwraeth o fewn y sector treftadaeth ehangach, rwy’n hyderus y bydd Jane yn hyrwyddo pryderon a chyfraniadau aelodau Icon ac yn gwneud y mwyaf o werth cadwraeth o fewn uchelgeisiau dyfodol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.”

Mae'r Cyngor yn un o ddau brif gorff llywodraethu ac mae'n chwarae rhan bwysig yn y ffordd y caiff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei llywodraethu.

Ei gyfrifoldebau llywodraethu allweddol yw penodi Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a’i ddwyn i gyfrif.

Mae'r Cyngor yn cynnwys 36 o aelodau, gyda 18 aelod etholedig a 18 aelod penodedig o sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwaith yr Ymddiriedolaeth.

Y Cyrff Penodi yw 18 sefydliad sy'n cael eu hethol gan aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bob chwe blynedd.

Yn gyffredinol, mae'r sefydliadau'n gweithredu mewn meysydd sy'n gysylltiedig â gwaith yr Ymddiriedolaeth, megis natur, cadwraeth, treftadaeth a gwirfoddoli.

I ddysgu rhagor, ewch i ymweld â Chyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyrff Penodi.

Rhannu’r stori hon