Ysgol Busnes Caerdydd yn derbyn ail-achrediad AMBA mawreddog
3 Ionawr 2025
Ysgol Busnes Caerdydd yn cadarnhau ei lle ymhlith 2% yr Ysgolion Busnes gorau yn y byd drwy ennill ail-achrediad AMBA.
Mae'r ail-achrediad gan Gymdeithas MBA's (AMBA), un o awdurdodau mwyaf blaenllaw'r byd ar addysg fusnes ôl-raddedig, yn dangos ei hymrwymiad parhaus i ragoriaeth ym maes addysg rheoli.
Ar ôl derbyn ail-achrediad AMBA, gwahoddir holl fyfyrwyr MBA presennol a chyn-fyfyrwyr MBA diweddar Ysgol Busnes Caerdydd i ymuno â chymuned aelodau byd-eang AMBA . Mae’r gymuned yn cynnwys dros 60,000 o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr mewn mwy na 150 o wledydd. Ni chodir tâl am yr aelodaeth ac mae’n cynnig cyfleoedd i rwydweithio, arwain meddyliau, datblygu gyrfaoedd, ac amrywiaeth o fanteision.
Achrediad gan AMBA yw'r safon uchaf o gyflawniad ym maes addysg fusnes ôl-raddedig. Mae ei feini prawf asesu trylwyr yn sicrhau mai dim ond y rhaglenni o'r radd flaenaf ac sy'n dangos y safonau uchaf o ran addysgu, cwricwlwm a rhyngweithio myfyrwyr, sy'n cyflawni achrediad AMBA.
“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi derbyn ail-achrediad AMBA yn dilyn proses wydn adolygu drwy gymheiriaid. Mae'r cyflawniad hwn yn amlygu ein hymrwymiad i gynnig rhaglenni MBA o'r radd flaenaf sy'n ymgorffori ein pwrpas gwerth cyhoeddus unigryw. Diolch i bawb sy’n ymwneud â’n rhaglenni MBA a’r broses ail-achrediad.” Yr Athro Tim Edwards, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd
Yn ystod y broses ail-achrediad a gafodd ei chynnal gan AMBA, cymeradwyodd aelodau’r panel achrediad, a oedd yn cynrychioli uwch reolwyr o ysgolion busnes byd-eang, colegol ac ysbryd yr ysgol a oedd, yn eu barn nhw, yn ddilys, yn gadarnhaol ac yn bositif.
Gwelwyd bod diben i waith yr ysgol, oedd wedi’i seilio ar ethos o Werth Gyhoeddus. Amlygwyd hyn gan y pwyslais yr oedd y cyflogwyr yn ei roi ar ymagwedd y rhaglenni sy'n aml yn unigryw.
Yn olaf, nododd y panel fod rhagoriaeth ymchwil yr ysgol yn amlwg ar draws ei disgyblaethau a’i chanolfannau ymchwil ac roedden nhw’n meddwl bod hyn yn cynnig ehangder a dyfnder. Roedd y panel o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ardderchog ar gyfer lansio mentergarwch traws-ddisgyblaethol.
Meddai Andrew Main Wilson, Prif Weithredwr Cymdeithas MBAs a Chymdeithas y Graddedigion Busnes (BGA): “Rwy wrth fy modd bod Ysgol Busnes Caerdydd wedi derbyn ail-achrediad gan AMBA. Fe hoffwn i’n bersonol longyfarch pawb sydd wedi gweithio mor galed tuag at yr ail-achrediad hwn. Mae'r ysgol yn uchel ei pharch ac felly'n haeddu ei lle yn rhwydwaith AMBA. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r ysgol yn y dyfodol.”