Darganfod math newydd o gell-T gwrthganser
2 Ionawr 2025
Mae is-fath newydd o gell-T wedi cael ei ddarganfod, a gobaith gwyddonwyr yw bod modd ei ddefnyddio i hyfforddi ein system imiwnedd i fynd i'r afael â chelloedd canser.
Mewn erthygl a gyhoeddwyd heddiw yn y Journal of Clinical Investigation, dangosodd yr ymchwilwyr fod gan bawb y gallu i greu celloedd-T gwrthganser sy'n adnabod celloedd canser drwy foleciwl o'r enw MR1 (Moleciwl 1 sy'n gysylltiedig â Dosbarth I MHC).
Hwyrach y bydd yr is-deip newydd o gell-T, y mae gan bawb y gallu i'w greu, yn datgloi’r gallu yn y dyfodol i harneisio ein system imiwnedd ein hunain i drin canser drwy ddefnyddio imiwnotherapi neu frechiadau.
Mae'r celloedd-T hyn, sydd newydd eu darganfod, yn ymgorffori 'llofnod' penodol sy'n caniatáu iddyn nhw gael eu canfod yn y boblogaeth drwyddi draw. Mae'r ymchwilwyr yn credu bod yr is-fath hwn o gell-T yn gallu synhwyro gwahaniaethau yn y metaboledd sy'n digwydd pan fydd celloedd yn mynd yn ganseraidd.
Protein yw MR1 sy'n chwarae rhan bwysig wrth ganiatáu i'r system imiwnedd ganfod celloedd a heintir gan ficrobau. Yn ystod haint, cyflwynir protein MR1 ar wyneb y gell heintiedig lle bydd moleciwl o'r enw metabolyn sy’n deillio o'r microbau heintio, gan ei ganfod er mwyn i’r celloedd-T ei ddinistrio. Yn yr astudiaeth newydd chwiliodd yr ymchwilwyr am gelloedd-T a allai ymateb i gelloedd canser drwy brotein MR1 ond heb ymosod ar gelloedd iach normal. Samplon nhw boblogaethau o gelloedd-T 10 rhoddwr iach a chlaf â lewcemia myeloid acíwt ac roedden nhw’n gallu ysgogi’r celloedd-T a aeth ati i ladd y celloedd canser drwy foleciwl MR1 gwaed pob rhoddwr.
Canfuwyd bod gan y celloedd-T gwrthganser hyn gan roddwyr gwahanol lofnod penodol, gan awgrymu eu bod yn adnabod yr un moleciwl ag sydd gan MR1 ar fathau gwahanol o gelloedd canser, gan ddod o hyd iddyn nhw a’u dinistrio. Yn bwysig ddigon, mae’n rhaid i'r moleciwl hwn fod yn absennol neu gael ei leihau ar gelloedd iach, gan ganiatáu iddyn nhw gael eu hanwybyddu.
Cyhoeddwyd yr ymchwil, ‘MHC-related protein 1-restricted recognition of cancer via a semi-invariant TCR-alpha chain’, yn y cyfnodolyn Journal of Clinical Investigation. Ariannwyd yr ymchwil gan Ymddiriedolaeth Wellcome a phartneriaeth y Cancer Grand Challenges, Ymchwil Canser y DU, y Sefydliad Canser Cenedlaethol a’r Mark Foundation for Cancer Research.